Australopithecus afarensis

From Wikipedia, the free encyclopedia

Australopithecus afarensis
Remove ads

Hominid a fu'n byw ar y Ddaear oedd Australopithecus afarensis (Lladin: "Epa'r De o Afar"), Trigodd rhwng 3.9 a 2.9 miliwn o flynyddoedd yn ôl yng Ngorllewin Affrica.[1] Roedd yn hominid byr a thenau ei faint, yn eitha tebyg i Australopithecus africanus. Credir ei fod yn perthyn yn agos i'r genws Homo, sy'n cynnwys y bod dynol modern Homo sapiens naill ai'n uniongyrchol neu drwy hynafiad sydd eto i'w ganfod. Dyma berthynas agosaf Homo sapiens.[2] Mae 'Afar' yn derm sy'n deillio o bobl ac iaith, sy'n trigo ar 'Gorn Affrica', yn Ethiopia, ac ystyr 'Afar' yw 'Pobl Ddewr'.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...
Ffeithiau sydyn Dosbarthiad gwyddonol, Enw deuenwol ...

Y ffosil enwocaf i'w ddarganfod yw rhan o ysgerbwd a elwir yn Lucy a drigodd 3.2 miliwn o flynyddoedd CP yn y wlad a elwir heddiw yn Ethiopia. Fe'i canfyddwyd gan Donald Johanson a'i gydweithwyr a fedyddiodd y sgerbwd yn 'Lucy' gan fod yr archaeolegwyr ar y pryd yn gwrando'n ddi-baid ar gân o'r un enw gan y Beatles, sef Lucy in the Sky with Diamonds.[3][4][5]

Remove ads

Anatomeg

O'i gymharu gydag epaod modern a'r rhai sydd wedi darfod, mae gan A. afarensis ddannedd llai. Mae ganddo hefyd ymennydd llai: tuag 380–430 cm3 a gên sy'n ymthio allan, ac ymlaen.

Ceir cryn ddadlau ai creadur deudroed yn unig oedd, ynteu a oedd ar adegau'n goedrigol (arboreal). Mae esgyrn y dwylo, y traed, yr ysgwyddau'n awgrymu ei fod am ran helaeth o'r dydd ar ei draed, yn debyg iawn i fodau dynol modern.[6] Mae bysedd y dwylo a'r traed, fodd bynnag, yn grwm, er mwyn bachu brigau a changhennau, a chred rhai ei fod o bosib yn parhau i fyw yn y coed.

Remove ads

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads