Mïosen
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Cyfres neu Epoc ddaearegol ydy Mïosen (Saesneg: Miocene) (symbol MI[1]) o fewn y cyfnod Neogen, sy'n ymestyn o tua 23.03 to 5.332 miliwn o flynyddoedd yn ôl (Ma). Fe enwyd y cyfnod hwn gan Syr Charles Lyell daw'r enw o ddau air Groegaidd: μείων (meiōn, “llai”) a καινός (kainos, “newydd”) a golyga "llai diweddar" gan fod y cyfnod hwn yn cynnwys 18% yn llai o anifeiliaid di-asgwrn cefn na'r cyfnod Plïosen. Mae Mïosen yn dilyn y cyfnod Oligosen a daw'r Plïosen ar ei ôl.
Y Mïosen ydy epoc cyntaf y Cyfnod Neogen.
Roedd planhigion ac anifeiliaid y Cyfnod Mïosen yn gymharol fodern: roedd mamaliaid ac adar edi hen sefydlu erbyn y cyfnod hwn, felly hefyd y morfil, y morloi a gwymon. Mae'r cyfnod hwn o ddiddordeb mawr i ddaearegwyr gan y ffurfiwyd llawer iawn o fynyddoedd yr Himalayas ar yr adeg yma. Effaith hyn ar y tywydd yn Asia oedd ffurfio monswnau a rhewlifau yn Hemisffer y Gogledd.[2]
Remove ads
Cyfeiriadau
Gweler hefyd
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads