Mantell (daeareg)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Y fantell yw’r haen o’r Ddaear (neu unrhyw blaned arall) rhwng y gramen a’r graidd. Mae wedi ei gwneud o beridotit, mae’n solid, ond yn ymddwyn yn ystwyth.

Caiff ei rhannu yn uwch-fantell ac yn is-fantell. Y ffin yw'r lleoliad lle mae newid sydyn yng nghyflymder tonnau seismig. Mae hyn yn digwydd ar ddyfnder o tua 660 km. Credir fod y naid yma yng nghyflymder tonnau seismig yn gysylltiedig gyda newid yn y mineralau yn y fantell. Oherwydd y pwysau (oherwydd yr holl gerrig uwchben) mae'r atomau yn y diwedd yn methu cadw ei patrwm mewn mineral ac yn newid i fineral newydd. Credir fod y naid tau 660 km yn gysylltiedig gyda'r mineral Ringwoodite yn newid i Bridgmandite ('roedd yn cael ei alw yn Perovskite) a ferropericlase oherwydd y broses yma [1].
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads