Marc Chagall
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Roedd Marc Chagall (7 Gorffennaf 1887 - 28 Mawrth 1985) yn beintiwr, printiwr a chynllunydd. Bu’n gysylltiedig gyda nifer o arddulliau celfyddydol, cyfunodd elfennau Ciwbiaeth, Symbolaeth a Fauve gyda'i ddehongliad unigryw o gelf werinol Iddewig dwyrain Ewrop. Dangosodd ei waith Fi a'r Pentref (1911) syniadaeth Swrealaeth rhai blynyddoedd cyn ffurfio mudiad y Swrrealaidd ei hun. Yn fodernydd cynnar, creodd Chagall waith yn bron bob cyfrwng celfyddydol, yn cynnwys setiau llwyfan, engrafiadau (etchings) Beiblaidd a gwydr lliw.[1]
Ystyrir fel un o arlunwyr mwyaf llwyddiannus yr 20g.
Remove ads
Bywyd cynnar
Ganwyd yn Vitebsk, Belarws (Rwsia pryd hynny), ym 1887. Fe'i fagwyd ar aelwyd Iddewig draddodiadol gydag wyth o frodyr a chwiorydd. Gweithiodd ei dad mewn warws pysgod, ei fam yn cadw siop.
Er ei gefndir tlawd, fe lwyddodd i gael lle i astudio peintio yn St. Petersburg cyn symud i Baris ym 1910 ble cyfarfu nifer o arlunwyr ac ysgrifennwr yn cynnwys Guillaume Apollinaire a Robert Delaunay. Hefyd fe gafodd gyfle i weld llawer o ddarluniau prif fudiadau celf y cyfnod fel Argraffiadaeth (Impressionnisme) a Fauve. Cyn hir roedd Chagall yn arddangos ei waith wrth eu hochr.[2]
Remove ads
Bywyd fel arlunydd

Yn dilyn arddangosfa lwyddiannus un dyn ym Merlin, 1914, dychwelodd Chagall i Vitebsk ble briododd ei gariad, Bella. Rhai wythnosau'n ddiweddarach fe ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf a chaewyd ffiniau Rwsia. Yn methu teithio fe'i ganolbwyntiodd ar beintio ei gymdogion Iddewig.
Yn frwdfrydig dros Chwyldro Rwsia ym 1917, penderfynodd aros yn Vitebsk. Fe'i benodwyd yn gomisar dros gelfyddyd a sefydlwyd Ysgol Celf y Bobl yn y dref ond i adael ym 1920 wedi dadleuon gyda chefnogwyr celfyddyd Swprematydd (Suprematist). Roedd y Swprematyddion y prif fudiad celfyddydol yn yr Undeb Sofietaidd yn ystod y blynyddoedd yn dilyn y chwyldro, eu gwaith yn seiliedig ar siapiau geometrig ac yn tra gwahanol i waith Chagall.[3]

Symudodd i Foscow i gynllunio setiau ar gyfer Theatr Siambr Iddewig y wlad. Ym 1922 fe'i adawodd yr Undeb Sofietaidd am byth gan deithio i Ferlin ac wedyn yn ôl i Baris ym 1923.
Ym Mharis bu'n hynod o weithgar fel peintiwr ond hefyd yn gwneud engrafiadau (etchings). Yn ystod y 1930au fe'i deithiodd i'r Iseldiroedd, Sbaen, Gwlad Pwyl, Yr Eidal a Phalestina. Ym Mhalestina fe ymddiddorodd yn hanes a bywyd Iddewig a fu'n ysbrydoliaeth i'w engrafiadau Beiblaidd.[3]
Bu Chagall yn un o'r arlunwyr a gondemniwyd eu gwaith yn Entartete Kunst ('celf ddirywiedig') gan y Natsiaidd pan ddaethant i rym yn yr Almaen. Llosgwyd llyfrau a malwyd darluniau a cherfluniau modern nad oedd yn gyd fynd â syniadaeth. Roedd Chagall, fel arlunydd modern ac Iddew a chefnogodd y Comiwnyddion Sofietaidd mewn perygl arbennig. Pan feddiannodd Ffrainc gan y Natsiaidd bu Chagall yn ffodus i ddianc i'r Unol Daleithiau mewn pryd. Lladdwyd y boblogaidd Iddewig bron i gyd o'i dref wreiddiol Vitebsk yn Belarws.[4]
Ar ôl y rhyfel fe'i symudodd yn ôl i fyw yn Ffrainc ble fu'n hynod o weithgar mewn nifer o feysydd a chyfryngau trwy'r degawdau canlynol. Ystyrir Chagall fel yr arlunydd mawr olaf y mudiad modern hanner cyntaf yr 20g (Bu farw Joan Miró dwy flynedd yn gynt). Gweler ei waith yn gyfuniad cwbl unigryw o'r avant garde arloesol dan ddylanwad traddodiad gwerinol Iddewig ei blentyndod.
Cofir yn bennaf am ei ffigyrau angylaidd yn hedfan fel mewn breuddwyd uwch tirwedd hud a lledrith rhyw ‘’sitetl’’ dychmygol.
Enillodd Wobr Erasmus ym 1960.[5]
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
