Mathew Paris
croniclwr ac arlunydd Saesneg canoloesol (1200-1259) From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Hanesydd o Loegr oedd Mathew Paris (c. 1200 - Mehefin 1259),[1] sy'n adnabyddus hefyd fel darluniwr llawysgrifau.
Ymunodd Mathew ag abaty Benedictaidd St Albans yn 1217 ac aeth yn ddisgybl i'r croniclydd Roger o Wendover a'i olynu fel croniclydd yr abaty yn 1236. Teithiodd i astudio yn Ffrainc ddwywaith ac aeth unwaith yn gennad dros y Pab Innocentius IV i Norwy.
Mae ei Chronica Majora yn olygiad a pharhad o gronicl Roger o Wendover. Ynddo ceir hanes tranc Gruffudd ap Llywelyn Fawr wrth geisio dianc o Dŵr Llundain. Cyhoeddodd sawl gwaith arall, gan gynnwys crynhoad o'r blynyddoedd 1200-1250 yn y Chronica Majora (y Historia Minora) a bywgraffiadau abadau.
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads