Mechell (sant)

sant o Ynys Môn From Wikipedia, the free encyclopedia

Mechell (sant)
Remove ads

Sant a gysylltir ag Ynys Môn oedd Mechell neu Mechyll (fl. 5g neu 6g). Yn ôl traddodiad roedd yn fab i Echwydd ap Gwyn Gohoyw.[1] Dethlir ei wylmabsant ar 15 Tachwedd.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...

Bywgraffiad

Ychydig iawn a wyddys amdano. Dywedir iddo sefydlu eglwys Llanfechell yn y 5g ar safle Eglwys Mechell Sant heddiw. Coffheir y sant mewn enw lle arall yn yr ardal, sef cymuned fechan Mynydd Mechell, filltir i'r de o'r pentref hwnnw.

Ceir carreg Gristnogol gynnar ym mynwent eglwys Penrhos Lligwy sy'n dwyn yr arysgrif ganlynol:

HIC IACIT MACCVQ ECCETI (Yma y gorwedd ?Mechell [fab] ?Echwydd)[2]

Ymddengys i Fechell gael ei gladdu yn y llan honno.

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads