Llanfechell

cymuned a phentref yn Ynys Môn From Wikipedia, the free encyclopedia

Llanfechell
Remove ads

Pentref yng nghymuned Mechell, Ynys Môn, yw Llanfechell ("Cymorth – Sain" ynganiad )). Saif yng ngogledd yr ynys tua 2 filltir i'r de o bentref Cemaes, ar yr arfordir i'r gogledd, a milltir i'r de o bentref Tregele, lle mae lôn yn rhedeg o'r pentref hwnnw i Lanfechell.

Ffeithiau sydyn Math, Enwyd ar ôl ...

Yn ôl cyfrifiad 2011, poblogaeth y pentref yw 1,293. Yn y pentref mae eglwys, tafarn (Y Cefn Glas), caffi (Caffi Siop Mechell), ysgol gynradd (Ysgol Gymuned Llanfechell), siop (Siop Isfryn) a dau gapel (Ebeneser a Libanus).

Remove ads

Hanes a hynafiaethau

Thumb
Meini hirion Llanfechell
Thumb
Capel Libanus Chapel - geograph.org.uk - 1263315

Enwir yr eglwys a'r pentref ar ôl Sant Mechell (neu Mechyll), fab Echwydd ap Gwyn Gohoyw, a flodeuai yn y 5g. Coffheir y sant mewn enw lle arall yn yr ardal, sef cymuned fechan Mynydd Mechell, filltir i'r de o'r pentref presennol.

Mae rhannau o'r eglwys, sydd ar ffurf croes, yn dyddio i'r 12g. Ychwanegwyd cangell yn y 13g a chlochdy yn yr 16g. Mae'r bedyddfaen yn perthyn i'r 12g. Ym mhorth yr eglwys gellir gweld beddfaen gyda cherflun anghyffredin o groes flodeuog arno, sydd i'w ddyddio i'r 13g.

Ceir sawl safle archaeolegol ger y pentref. Fymryn i'r gogledd ceir cromlech ar Foel Fawr ac yn agosaf i'r pentref i'r un cyfeiriad ceir triongl o feini a elwir yn Feini Hirion. Hanner milltir i'r dwyrain ceir maen hir ar dir Carrog. Yng nghyffiniau Mynydd Mechell ceir Maen Arthur.

Remove ads

Adeiladau a chofadeiladau

Pobl o Lanfechell

William Bulkeley 1691-1760, mân-fonheddwr, ffermwr a dyddiadurwr. Mae hanes ei ddyddiaduron helaeth i’w weld yma a’u cofnodion amaethyddol, ffenolegol a hinsoddol yn gyrchadwy yma ar wefan prosiect Llên Natur.

Imogen Longman

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads