Meillionen goch

From Wikipedia, the free encyclopedia

Meillionen goch
Remove ads

Planhigyn blodeuol bychan ydy'r meillionen goch (Lladin: Trifolium pratense; Saesneg: Red clover) a cheir tua 300 gwahanol fath yn nheulu'r meillion. O gael llonydd, gall dyfu i uchder o 80 cm ond mae'r maint yn dibynnu ar ansawdd y pridd. Mae'r dail rhwng 15–30 mm o hyd ac 8-15mm o led, yn wyrdd gyda siâp lleuad ar hanner allanol y ddeilen. Mae'r deilgoesyn (petiol) yn 1–4 cm o hyd. Pinc tywyll yw lliw'r blodyn pan mae'n ymddangos, 12-15mm o hyd.

Ffeithiau sydyn Dosbarthiad gwyddonol, Enw deuenwol ...
Thumb
Llond cae o feillion coch yn cael ei dyfu'n fasnachol er mwyn y rhinweddau meddygol sydd yn y planhigion.

Caiff y planhigyn ei ddefnyddio, yn draddodiadol, at nifer o anhwylderau oherwydd ei fod yn cynnwys y canlynol: calsiwm, cromiwm, magnesiwm, niacin, ffosfforws, potasiwm, thiamin a Fitamin C. Dyma'r planhigyn sy'n cynnwys fwyaf o isofflafonau o holl blanhigion y byd; (cemegolyn yw hwn sy'n hydoddi mewn dŵr ac sy'n gweithredu fel estrogen - gweler isod.

Remove ads

Rhinweddau meddygol

Dywedir fod y blodau, o'u sychu, yn medru gwneud te iachusol sy'n dda at ddiffyg traul.[1] Fe'i defnyddir hefyd i wella poenau'r misglwyf ac osteoporosis.[2] Dywed eraill ei fod yn wych am godi fflem pan fo'r claf yn dioddef o beswch cas a hefyd i wella cengroen (psoriasis) ac ecsema .[3]

Dengys ymchwiliadau gwyddonol diweddar fod llawer o isofflafinau megis genistin yn y feillionen goch, sydd â phriodweddau tebyg iawn i estrogen ac mai dyma pam ei fod yn dda at leddfu poenau'r ddarfyddiad (menopaus) a chryfhau'r galon.[3][4]

Mae sawl ymchwil gwyddonol ar droed sy'n edrych i effaith y feillionen fechan ar gleifion sy'n dioddef o gancr.[5]

Remove ads

Cyfeiriadau

Gweler hefyd

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads