Mentrau Iaith Cymru

From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Mentrau Iaith Cymru yw'r corff cenedlaethol sy'n cydlynu a rheoleiddio gwaith 22 gwahanol Menter Iaith ar draws Cymru. Yn 2017, roedd y corff yn derbyn grant blynyddol o £110,000 gan Lywodraeth Cymru.[1]

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Gwladwriaeth ...

Lleolir swyddfeydd Mentrau Iaith Cymru yn Llanrwst, gan rannu swyddfa gyda Menter Iaith Conwy.

Mae Mentrau Iaith Cymru (MIC) yn gweithredu fel sefydliad ymbarél i'r Mentrau Iaith lleol gan eu cynrychioli mewn trafodaethau â sefydliadau eraill, megis Llywodraeth Cymru. Mae MIC yn hyrwyddo a chefnogi gwaith y Mentrau Iaith yn eu cymunedau.

Ymysg un o brif weithgareddau MIC yw trefnu a chyd-lynu Ras yr Iaith, ras hwyl dros yr iaith Gymraeg a gynhelir pob dwy flynedd. Mae'r Ras yn rhedeg drwy ganol trefi gan basio 'baton yr iaith' ar hyd y daith. Y mentrau iaith lleol, mewn cydweithrediad gyda MIC, sy'n trefnu nifer o'r gweithgareddau a llwybr y ras gydag aelodau o'r gymuned lleol.

Remove ads

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads