Michael Faraday

ffisegydd a chemegydd Prydeinig From Wikipedia, the free encyclopedia

Michael Faraday
Remove ads

Cemegydd a ffisegydd o Loegr oedd Michael Faraday, FRS (22 Medi 179125 Awst 1867). Daeth Faraday o deulu tlawd ond Cristnogol, roedd yn aelod ac yn flaenor gyda'r sect Protestanaidd y Sandemaniaid, ac felly cyrhaeddod lefel uchel o lythrennedd am y cyfnod i blentyn mor dlawd. Gwasanaethodd wedyn am saith mlynedd fel prentis i rwymydd llyfrau. Felly roedd cyfle gwych ganddo i ddarllen llyfrau gwyddonol. Roedd ei dad yn of, ac felly roedd Michael yn fachgen digon alluog gyda theclynau ac ynni o'r dechrau.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...

Drwy fynychu darlithoedd gwyddonol nosweithiau, fe gafodd gyfeillgarwch Humphry Davy, ac fe ddaeth i weithio i'r Royal Institution yn Llundain (ar y pryd yn gweithio fel adran gwyddoniaeth y Brifysgol). Dringodd yn gyflym i fod yn aelod llawn ac wedyn athro. Cyfranodd yn sylweddol i'r fyd Cemeg a Ffiseg, a Faraday oedd y gwyddonydd a ddarganfuwyd anwythiad electromagnetig, diamagnetedd ac electrolysis a'r cysyniad o faes magnetig. Creodd sylfeini y modur trydan. Daeth o hyd i gemegau newydd fel bensen, dechreuodd y syniad o rifau ocsidiad a'r termau anod, catod, electrod, ac ïon. Enwyd yr uned SI am gynhwysiant, Farad, ar ei ôl, a hefyd y cysonyn Faraday.

Er gwaethaf diffyg addysg prifysgol ffurfiol, fe ddaeth yn Athro Fullerian Cemeg, post a gadwodd hyd at ddiwedd ei oes.

Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads