Muhammad Ali
paffiwr (1942-2016) From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Cyn-focsiwr pwysau trwm o'r Unol Daleithiau oedd Muhammad Ali, enw genedigol Cassius Marcellus Clay Jr. (17 Ionawr 1942 - 3 Mehefin 2016).[2] Enillodd bencampwriaeth pwysau trwm y byd deirgwaith.
Ganed ef yn Louisville, Kentucky. Fel bocsiwr amatur, enillodd fedal aur yng Ngemau Olympaidd 1960 yn Rhufain. Wedi'r gemau, trôdd yn focsiwr proffesiynol. Enillodd bencampwriaeth pwysau trwm y byd am y tro cyntaf yn 1964, pan gafodd fuddugoliaeth annisgwyl tros Sonny Liston.
Yn 1967, ymunodd a'r Nation of Islam, a newidiodd ei enw o Cassius Clay i Muhammad Ali. Yn 1967, gwrthododd fynd i ymladd yn Rhyfel Fietnam, a chymerwyd ei deitl oddi arno. Collodd ornest enwog yn erbyn Joe Frazier yn 1971, ond yn 1974, mewn gornest yn Kinshasa, Zaire, curodd George Foreman i ad-ennill pencampwriaeth pwysau trwm y byd. Yn ddiweddarach, ymladdodd ddwy ornest arall yn erbyn Joe Frazier, gan ennill y ddwy.
Wedi iddo ymddeol, datblygodd Ali Glefyd Parkinson; credir bod hyn o ganlyniad i'w yrfa fel bocsiwr.
Bu farw 3 Mehefin 2016 yn Scottsdale, Arizona yn 74 mlwydd oed.[3]
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
