NatureScot

asiantaeth amgylcheddol a byd naturl Yr Alban, sefydlwyd yn 1991 o dan yr enw Scottish Natural Heritage, ond ail-frandwyd yn 2020 i 'NatureScot' (wedi sillafu fel un gair). From Wikipedia, the free encyclopedia

NatureScot
Remove ads

Mae NatureScot (tan fis Awst 2020 Scottish Natural Heritage; Gaeleg: Buidheann Nàdair na h-Alba) yn awdurdod sy'n gyfrifol am warchod treftadaeth naturiol yr Alban. Fe'i sefydlwyd o dan ei enw blaenorol Scottish Natural Heritage (SNH) o dan Ddeddf Treftadaeth Naturiol (Yr Alban) 1991 a daeth yr asiantaeth yn weithredol yn 1992.[1]. Ym mis Tachwedd 2019, cyhoeddwyd y byddai SNH yn cael ei ail-frandio fel NatureScot, fodd bynnag byddai ei bersona cyfreithiol a’i swyddogaethau statudol yn aros heb eu newid. Daeth y newid i rym ar 24 Awst 2020.[2][3]

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Rhan o ...

Mae ffocws NatureScot ar warchod amrywiaeth amgylchedd naturiol yr Alban. Mae'r awdurdod yn cynghori llywodraeth yr Alban ac yn comisiynu mesurau i hyrwyddo cadwraeth natur ar ei rhan. Mae hyn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, rheoli gwarchodfeydd natur (Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol (GNG). Mae gan NatureScot 800 o weithwyr ac mae ganddo swyddfeydd mewn sawl rhanbarth yn yr Alban. Symudwyd y pencadlys o Gaeredin i Inverness yn 2003/2004. Yn dod i rym ar 24 Awst 2020, newidiwyd enw'r awdurdod i NatureScot.[4]

Remove ads

Cyfrifoldebau

Thumb
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Caerlaverock, a weinyddir gan NatureScot

Nodau cyffredinol NatureScot fel y’u sefydlwyd yn Neddf Treftadaeth Naturiol (Yr Alban) 1991 yw:[5]

  • Sicrhau cadwraeth a chyfoethogi treftadaeth naturiol yr Alban
  • Meithrin dealltwriaeth a hwyluso mwynhad o dreftadaeth naturiol yr Alban

At ddibenion y Ddeddf, diffinnir treftadaeth naturiol yr Alban fel fflora a ffawna'r Alban, ei nodweddion daearegol a ffisiograffigol a'i harddwch naturiol a'i hamwynder. Mae cyfrifoldebau penodol NatureScot yn cynnwys:

  • Rhoi cyngor i lywodraeth yr Alban ar ddatblygu a gweithredu polisïau sy’n berthnasol i dreftadaeth naturiol yr Alban
  • Lledaenu gwybodaeth a chyngor yn ymwneud â threftadaeth naturiol yr Alban i'r cyhoedd
  • Cynnal a chomisiynu ymchwil yn ymwneud â threftadaeth naturiol yr Alban
  • Sefydlu, cynnal a rheoli ardaloedd cadwraeth dynodedig yn yr Alban
Remove ads

Enghreiffiau o waith NatureScot

Mae NatureScot bellach yn berchen ar ynysoedd fel Gogledd Rona, sydd â phoblogaethau sylweddol o forloi llwyd a'r morloi cyffredin. Bu hefyd yn ymwneud â chael gwared ar y poblogaethau o'r draenog a gyflwynwyd i Ynysoedd Heledd, gan ei fod yn cael effaith negyddol iawn ar boblogaethau magu pibydd y mawn, cwtiad torchog a'r pibyddion coesgoch yno.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads