Odisha

From Wikipedia, the free encyclopedia

Odisha
Remove ads

Mae Odisha (Orissa cyn 2011) yn dalaith ar arfordir dwyreiniol India. Roedd ei phoblogaeth yn 36,706,920 yn 2001. Bhubaneswar yw prifddinas y dalaith, a'r prif borthladd yw Paradip. Mae dinas Puri yn cael ei hystyried yn ddinas sanctaidd ac yn safle teml enwog Jagannath. Iaith swyddogol y dalaith yw Oriya, iaith Indo-Ariaidd sy'n perthyn yn agos i Bengaleg. Hindwaeth yw'r brif grefydd; roedd 94.35% o boblogaeth y dalaith yn Hindwiaid yn 2001.

Ffeithiau sydyn Math, Prifddinas ...

Mae'r hinsawdd yn wlyb, ac mae tyfu reis yn bwysig iawn yma, yn enwedig ar y tir ffrwythlon ger glannau'r môr. Ceir tua chwarter mwyn haearn India yn Odisha, a phumed rhan o'i glo, yn ogystal â chanran uchel o nifer o fwynau eraill. O ganlyniad tyfodd cryn dipyn o ddiwydiant yn y dalaith. Yn Odisha y bu Rhyfel Kalinga yn 261 CC.; y rhyfel yma a berswadiodd yr ymerawdwr Ashoka i droi ei gefn ar ryfela a throi'n Fwdydd.

Thumb
Lleoliad Odisha yn India


Rhagor o wybodaeth Taleithiau a thiriogaethau India, Taleithiau ...
Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads