Omaha, Nebraska

dinas, Unol Daleithiau America From Wikipedia, the free encyclopedia

Omaha, Nebraska
Remove ads

Dinas fwyaf y dalaith Americanaidd Nebraska a sedd sirol Douglas County yw Omaha. Yn ôl cyfrifiad 2000, mae gan y ddinas poblogaeth o 390 007, ac yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2006 cynyddodd poblogaeth Omaha i 427 872, sy'n cynnwys nifer ychwanegol o tua 8300 o bobl trwy gynnwys y ddinas lai Elkhorn. Lleolir Omaha ar gwr dwyreiniol Nebraska, ar Afon Missouri, tua (30 km) i ogledd aber Afon Platte. Angor ardal fetropolitan Omaha-Council Bluffs yw Omaha. Lleolir Council Bluffs, Iowa, yn syth ar draws Afon Missouri i Omaha. Ffurfiodd y ddinas a'i maestrefi y 60fed ardal fetropolitan fwyaf yn yr Unol Daleithiau yn 2000, gydag amcangyfrif poblogaeth o 822 549 (2006)[1] yn breswyl mewn wyth sir neu tua 1.2 miliwn o fewn radiws 80 km.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Am ddefnyddiau eraill, gweler Omaha (gwahaniaethu).
Thumb
Nenlinell Omaha
Thumb
Lleoliad Omaha o fewn talaith Nebraska

Mae gan Omaha etifeddiaeth ddiwylliannol ac hanesyddol gyfoethog. Mae uchelfannau diwylliannol yn cynnwys Amgueddfa Celf Joslyn, Amgueddfa Etifeddiaeth y Gorllewin Durham, Holland Performing Arts Center, a'r Omaha Community Playhouse. Roedd yn gartref i Trans-Mississippi and International Exposition 1898, ac yn lleoliad anheddau gaeaf setlwyr Llwybr y Mormoniaid. Roedd hefyd yn lleoliad digwyddiadau pwysig yn y Mudiad Hawliau Sifil. Mae hefyd yn ganolfan busnes a restrwyd fel un o ddeg hafan uwch-dechnolegol yr Unol Daleithiau gan Newsweek yn 2001.[2] Er bod tor-gyfraith yn Omaha yn gyffelyb i ddinasoedd Americanaidd o faint tebyg, mae tensiynau hiliol a methamphetaminau[3] yn faterion cymdeithasol.

Remove ads

Gefeilldrefi

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads