Oradea
dinas, Rwmania From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Mae Oradea (Hwngareg Nagyvárad, Almaeneg Großwardein) yn ddinas yn Rwmania, mewn sir o'r enw Bihor (BH), Transylvania. Mae gan y ddinas boblogaeth o 206,527 (yn ôl cyfrifiad 2002); dydy'r cyfanswm hwn ddim yn cynnwys ardaloedd y tu allan i'r bwrdreisdref, fyddai o gyfri'r ardaloedd hyn, yn codi'r boblogaeth i tua 220,000. Mae Oradea'n un o'r dinasoedd mwyaf llwyddiannus yn Rwmania.

Remove ads
Daearyddiaeth
Mae'r ddinas yn agos at y ffin â Hwngari, ac ar yr afon Crişul Repede.
Hanes
Crybwyllir y dref yn gyntaf o dan yr enw Lladin Varadinum, yn 1113 pan soniwyd am amddiffynfa Oradea - yn 1241, pan oedd angen adnewyddiadau cyflym cyn ymosodiad ar y dref gan y fyddin Mongol-Tataraidd o dan Batu Khan. Dechreuodd y dref dyfu yn y 1500au. Yn y 1700au cynlluniodd y peiriannwr o Fiena, Franz Anton Hillebrandt, y ddinas yn yr arddull baroque, a chodwyd llawer o dirnodau, er enghraifft yr Eglwys Gadeiriol Babyddol, Plas yr Esgob, a'r Muzeul Ţării Crişurilor (Amgueddfa Gwlad y Criş).
Remove ads
Economi
Mae Oradea wedi bod yn un o ddinasoedd mwyaf llwyddiannus Rwmania ers tro gan fod ffin Hwngari mor agos, gan wneud y ddinas yn fynedfa i Orllewin Ewrop.
Mae cyfradd diweithdra Oradea yn 6.0%, ychydig llai na chyfartaledd Rwmania, ond yn llawer mwy na chyfartaledd sir Bihor sydd oddeutu 2%. Mae Oradea'n cynhyrchu tua 63% o gynhyrchiadau diwydiannol y sir, gyda thua 34.5% o boblogaeth y sir. Y prif ddiwydiannau yw'r diwydiant dodrefn, y diwydiant gweol a dillad, troedwisgoedd a bwyd.
Yn 2003, agorodd ganolfan fasnachol y Farchnad Lotws yn Oradea – y ganolfan siopa mawr cyntaf i'w hagor yn y ddinas.
Ethnigyddiaeth
Hanesyddol
- 1910: 69.000 (Romanwyr: 5.6%, Hwngarwyr: 91.10%)
- 1920: 72.000 (R: 5%, H: 92%)
- 1930: 90.000 (R: 25%, H: 67%)
- 1966: 122.634 (R: 46%, H: 52%)
- 1977: 170.531 (R: 53%, H: 45%)
- 1992: 222.741 (R: 64%, H: 34%)
Presennol
Yng ngyfrifiad 2002, roedd poblogaeth y ddinas wedi'u rhannu i'r grwpau ethnig canlynol:
Remove ads
Trafnidiaeth
Mae'r rhwydwaith drafnidiaeth cyhoeddus yn y ddinas yn cael eu rhedeg gan OTL. Mae'r rhwydwaith yn cynnwys tair llinell tram (1R, 1N, 2, 3R, 3N) a rhai gwasanaethau bws. Mae gan y ddinas dair gorsaf, Central (Canolog), Vest (Gorllewinol) ac Est (Dwyrainol). Mae Gorsaf Vest yn yr ardal Ioşia, ac mae'r orsaf canolog (galwad "Oradea") yng nghanol y ddinas, ger yr ardal Vie.
Gweler hefyd
- Oradea Transport Local
Pensaernïaeth
Mae pensaernïaeth Oradea'n cymysg ei natur: ceirg adeiladau'r cyfnod Comiwnyddol yn yr ardaloedd y tu allan i ganol y ddinas, ac adeiladau hanesyddol pert yn yr arddull baroque yng nghanol y ddinas o'r amser pan oedd y ddinas yn rhan o'r Ymerodraeth Awstria-Hwngari.
Atyniadau
Mae canol y ddinas yn hardd ac yn werth ymweliad, gan gynnwys sba iechyd Băile Felix neu daith trên i'r tu allan i'r ddinas.
Llefydd poblogaidd eraill:
- Muzeul Ţării Crişurilor - amgueddfa baroque gyda 365 ffenestri.
- Catedrala barocă - eglwys gadeiriol baroque mwyaf Rwmania
- Cetatea Oradea - Amddiffynfa Oradea
- Biserica cu Lună - Eglwys unigol yn Ewrop gyda chloc sy'n dangos gweddau'r Lleuad
- Pasajul "Vulturul Negru" - Lôn yr "Eryr Ddu"
- Muzeul "Ady Endre" - tŷ un o beirdd mwyaf Hwngariaidd
- Teatrul de Stat - Theatr Ystadol.
- Mae tua 100 o eglwysi yn Oradea, yn cynnwys 3 synagogau (dim ond un dal yn wasanaeth) ac eglwys y Bedyddwyr mwyaf yn Nwyrain Ewrop.
Remove ads
Pobol enwog
- Y Brenin Attila
- Ödön Beothy
- Carl Ditters von Dittersdorf
- Michael Haydn
- Frida Kahlo
- Bela Kun
- Julia Varady
- Archesgobaith Oradea
Dolenni allanol
- Oradea Virtual Voyager - ro / en / fr / hu / de / it / es Archifwyd 2020-02-11 yn y Peiriant Wayback
- Oradea online (yn Romaneg)
- Gwefan Swyddogol Dinas Oradea Archifwyd 2011-02-26 yn y Peiriant Wayback (yn Romaneg)
- Gwefan Oradea Realitatea Bihoreana Archifwyd 2004-12-05 yn y Peiriant Wayback (yn Romaneg)
Oradea webcam Archifwyd 2007-10-14 yn y Peiriant Wayback
- Ceir lluniau o Oradea ar The Real Transylvania Archifwyd 2005-11-20 yn y Peiriant Wayback
Remove ads
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

