Owen Smith
gwleidydd Cymreig ac AS From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Cyn-wleidydd yw Owen Smith (ganwyd 2 Mai 1970).[1] Roedd yn Aelod Seneddol dros Bontypridd rhwng 2010 a 2019. Ar ôl gadael San Steffan, daeth yn Gyfarwyddwr Cysylltiadau Llywodraeth y DU, i gwmni fferyllol Bristol Myers Squibb.[2]
Fe'i ganwyd yn Morecambe, Lloegr. Mae e'n fab i'r hanesydd Cymreig David "Dai" Smith, cyd-gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru.[3]
Ymunodd gyda'r Blaid Lafur pan oedd yn 16 oed. Astudiodd hanes a Ffrangeg ym Mhrifysgol Essex cyn troi at y BBC i weithio fel cynhyrchydd radio lle gweithiodd am gyfnod o ddeg mlynedd ar raglenni o Lundain a Chaerdydd.[4]
Remove ads
Gyrfa wleidyddol
Yn 2002 trodd at wleidyddiaeth gan weithio fel cynghorydd i Paul Murphy, a oedd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru a dilynodd ef yn ei waith i Ogledd Iwerddon.
Yn 2006 ymgyrchodd yn aflwyddiannus am sedd ym Mlaenau Gwent (mewn Is-etholiad), a enillwyd gan yr annibynnwr Dai Davies. Etifeddodd sedd Kim Howells (Llafur) pan benderfynodd ef roi'r gorau iddi fel AS.[5] Llwyddodd i gipio Pontypridd yn 2010 a daeth yn aelod o Bwyllgor Materion Cymreig y Llywodraeth.
Herio arweinyddiaeth Llafur, 2016
Ymddiswyddodd o gabinet cysgodol Jeremy Corbyn ar 27 Mehefin 2016 ynghyd â nifer o gyd-aelodau y Blaid Lafur oherwydd "eu diffyg hyder" yn yr arweinydd.[6] Honnodd Smith fod Corbyn yn barod i weld y blaid yn rhannu, gan ysgrifennu ar Twitter: "On July [sic] 27 I asked @jeremycorbyn 3 times if he was prepared to see our party split & worse, wanted it to. He offered no answer. In the same meeting, in response to the same question @johnmcdonnellMP shrugged his shoulders and said 'if that's what it takes'."[7]
Yng Ngorffennaf 2016 datganodd Smith ei fwriad i sefyll fel ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn erbyn Jeremy Corbyn, yn dilyn cyhoeddiad Angela Eagle ei bod am sefyll. Dywedodd ei fod yn cefnogi nifer o bolisiau Corbyn ond nad oedd Corbyn yn "arweinydd gall ein arwain i etholiad ac ennill dros Lafur".[8]
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads