Pelydriad corff du

From Wikipedia, the free encyclopedia

Pelydriad corff du
Remove ads

Pelydriad corff du yw'r sbectrwm o egni electromagnetig a ddaw o wrthrych sy'n anrhyloew ac nad sy'n adlewyrchu (rhywbeth ffisegol haniaethol - ond sy'n disgrifio i raddau y rhan fwyaf o wrthrychau'r bydysawd)[1][2]. Mae'r sbectrwm di-dor yma yn dibynnu yn unig ar dymheredd wyneb y gwrthrych. Enghraifft pob dydd yw lliw sbectrwm yr haul. Mae ei wyneb (y ffotosffer) ar dymheredd o 5778 K[3] yn pelydru casgliad o donfeddi electromagnetig (o belydrau-x, trwy'r uwchfioled, y sbectrwm weladwy a'r isgoch, i donfeddi radio) sy'n ymddangos i'n llygaid (a'n hymennydd) ni yn wyn. Enghraifft arall yw lliw darn o haearn yn ffwrnais yr of. Wrth ei gynhesu mae lliwiau'r allyriad yn newid o'r anweledig i goch, i oren, i felyn ac yna i wyn (wynias). Mae pob un o'r rhain yn gymysgedd o'r sbectrwm electromagnetig, ond sy'n cynnwys mwy o fewnbwn tonfedd hir ("glasach") wrth gynhesu. Wrth gyrraedd tua 600°C mae'r coch tywyll yn ymddangos. Tua 2000°C yw'r poethaf i ffwrnais gyffredin a gwelir yr haearn yn wynias. Gellir canfod anifeiliaid (gan gynnwys pobol - ar tua 33°C) mewn tywyllwch trwy ddefnyddio offer sy'n synhwyro'r tonfeddi isgoch (anweledig) sydd â thonfedd fyrrach na goleuni gweladwy.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...

Ym myd seryddiaeth mae modd mesur tymheredd sêr trwy dadansoddi sbectrwm eu allyriad. Mewn sêr poethach na'r haul (5778 K) mae'r lliw glas yn ymddangos (sy'n boethach na "gwyn".)

Bathwyd y term corff du gan Gustav Kirchhoff (1824-1887)[4] o Brwsia yn 1860. Yn aml cysylltir y syniad gyda'r Almaenwr Max Planck (1858-1947)[5] a ddyfeisiodd hafaliad mathemategol yn 1900 i'w disgrifio - a thrwy hynny agor y drws i ddarganfyddiad y cwantwm.

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads