Pen-sarn

pentref yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia

Pen-sarn
Remove ads

Pentref bychan yn ardal Ardudwy, Gwynedd yw Pen-sarn ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (hefyd Pensarn). Fe'i lleolir ar y briffordd A496 tua milltir i'r gogledd o Lanbedr a thua 2.5 milltir i'r de o Harlech.

Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Am y pentref ger Abergele, sir Conwy, gweler Pensarn.

I'r gorllewin o Ben-sarn ceir Llandanwg a thua milltir i'r gogledd ceir Llanfair; mae yng nghymuned Llanfair. Ar un adeg roedd porthladd bychan yma: mae adeiladau'r cei yn ganolfan gwyliau erbyn heddiw.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Ceir arosfa ar Rheilffordd Arfordir Cymru yn y pentref.

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads