Penrhyn Llŷn
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Gorynys yng ngogledd-orllewin Cymru yw Penrhyn Llŷn neu Pen Llŷn. Mae'n rhan o Wynedd. Mae'n ymestyn fel braich allan i'r môr tua gogledd Bae Ceredigion. Yr Eifl yw'r copa uchaf a'r prif drefi yw Aberdaron, Abersoch, Cricieth, Nefyn a Phwllheli. Creadigaeth bur diweddar yw'r term ei hun.

- Gweler hefyd Llŷn (gwahaniaethu) a Penrhyn (gwahaniaethu).
Mae'r penrhyn yn cael ei adnabod fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Ceir nifer o draethau braf, yn arbennig ar yr arfordir deheuol, baeau creigiog ar hyd arfordir y gogledd, a bryniau gosgeiddig fel Yr Eifl a Carn Fadryn.
Er gwaethaf mewnlifiad o siaradwyr Saesneg i leoedd fel Abersoch, erys Llŷn yn un o gadarnleoedd pwysicaf yr iaith Gymraeg.
Remove ads
Geirdarddiad
Daw'r enw Llŷn o Laigin, brenhinllin Leinster/Laighin a sefydlodd gwladfa Wyddelig yng Ngogledd Cymru yn ystod Oes Gristnogol Gynnar Iwerddon (tua 400–800).[1]
Copaon


Cymunedau (a chyn-gymunedau)
Remove ads
Gweler hefyd
- Llŷn - y cantref hanesyddol; Pen Llŷn
- Eifionydd - cwmwd ac ardal hanesyddol; rhan dde-ddwyreiniol y penrhyn
- Llwybr Arfordir Llŷn ac Eryri
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o gopaon Cymru
Cyfeiriadau
Llyfryddiaeth
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads