Peter Scott

adaregydd (1909-1989) From Wikipedia, the free encyclopedia

Peter Scott
Remove ads

Adaregwr, cadwraethwr, arlunydd, swyddog yn y llynges, ac iotiwr o Sais oedd Syr Peter Markham Scott (14 Medi 190929 Awst 1989). Roedd yn fab i'r fforiwr Robert Falcon Scott. Pan oedd o’n ifanc, heliwr adar oedd o. Sefydlodd o Ymddiriodolaeth Adar Dŵr a Thiroedd Gwlybion ym 1946 yn Slimbridge ac roedd o’n un o sefydlwyr y Gronfa Byd-Eang Dros Natur (WWF), hefyd yn cynllunio ei logo. Cystadleuodd dros Brydain yn Gemau Olympaidd 1936 ac enillodd fedal efydd am hwylio. Urddwyd yn farchog ym 1973 oherwydd ei waith fel cadwraethwr. Derbynwyd Medal Aur y WWF[1] a hefyd gwobr Paul Getty am Gadwraeth.

Thumb
Cerflun Peter Scott, Martin Mere
Thumb
Martin Mere
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Am y lleidr, gweler Peter Scott (lleidr).
Remove ads

Bywyd cynnar

Ganwyd ar 14 Medi 1909 yn 174 Heol Palas Buckingham, Llundain, unig fab o Robert Falcon Scott a Kathleen Bruce, y cerflunydd. Bu farw ei dad pan oedd Peter yn 2 oed. Yn ei lythyr olaf cyn farw, awgrymodd ei dad i’w wraig y dylai hi roi diddordeb yn hanes naturiol i'u mab[2][3] Enwyd Scott ar ôl Syr Clements Markham[4] Ail-briododd ei fam i Farwn Kennet.

Addysgwyd Scott yn Ysgol Oundle a Choleg y Drindod, Caergrawnt, yn astudio Gwyddorau Naturiol ond yn newid i Hanes Celf, yn graddio yn 1931. Lletyodd gyda John Berry, soölegydd[5] Roedd o’n aelod o Glwb Criwsio Prifysgol Caergrawnt, a chystadleuodd yn erbyn Prifysgol Rhydychen ym 1929 a 1930. Astudiodd celf yn München ac wedyn yn ysgolion yr Academi Frenhinol yn Llundain.

Fel ei fam, roedd ganddo ddawn celfyddydol, a chafodd ei arddangosfa yn Llundain ym 1933. Roedd ganddo ddiddordeb mewn celf, bywyd gwyllt a chwaraeon, gan gynnwys hela adar dŵr, hwylio, gleidio, a sglefrio. Enillodd fedal efydd yng Ngemau Olympaidd 1936 am hwylio[6] yn nosbarth O-Jolle.[7]. Enillodd Gwpan Tywysog Cymru ym 1938 yn defnyddio harnais o’r enw ‘Trapeze’, cynlluniwyd gan Scott a’i gryw.[8]

Remove ads

Ail Ryfel Byd

Thumb
Gynfad Stêm, SGB S309, o dan arweiniad Is-lefftenant Peter Scott

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd o’n aelod o Wirfoddolwyr wrth Gefn y Llynges Frenhinol. Roedd o’n is-lefftenant yn ystod ymgiliad methedig Adran 51eg yr Ucheldir o Saint-Valery-en-Caux ar 11 Mehefin 1940[9]

Thumb
Mae Is-lefftenant Scott yn siarad gyda'i swyddogion cyn adael Mount Vernon, Mehefin 1944 Gweithiodd ar llongau distryw yng ngogledd Môr Iwerydd

ac wedyn arweiniodd sqwadron o gynfadau stêm yn erbyn cychod-E Almaeneg yn Y Sianel.[10]

Creodd Scott gynllun cuddliw ar gyfer llongau’r llynges yn ystod yr Ail Ryfel Byd ym 1940, ac erbyn Mai 1941 penderfynwyd bod llongau’r Llynges Frenhinol yn ddefnyddio ei gynllun. Dangoswyd bod llong du yn weladwy 6 milltir pellach i ffwrdd na long gwyn.[11]

Remove ads

Wedi’r Ail Ryfel Byd

Sefodd Scott dros y Plaid Ceidwadol ym 1945 yn etholaeth Wembley ond collodd.

Sefydlodd Ymddiriedolaeth Bwyd Gwyllt Afon Hafren (erbyn hyn yr Ymddiriodolaeth Adar Dŵr a Thiroedd Gwlybion ym 1946, gyda’i Bencadlys yn Slimbridge, Swydd Gaerloyw. Dechreuodd raglen fridio er mwyn arbed y Gwydd Nene yn y 1950au.

Cyflwynodd cyfres deledu hanes BBC, sef “Look” rhwng 1955 a 1969, gan gynnwys y ffilm lliw cyntaf am natur ar y BBC, sef “The Private Life of the Kingfisher”.[12]

Ysgrifennodd sawl llyfr am natur, gan gynnwys ei luniau, ac ysgrifennodd hunangofiant, “The eye of the wind” ym 1961.

Ymddangosodd ar raglen radio“Children’s Hour” ar ‘Home Service’ y BBC yn ystod y 1950au yn y cyfres ‘Nature Parliament’.

Dechreuodd gleidio ym 1956 a daeth yn bencampwr prydeinig ym 1963. Roedd o’n gadeirydd Cymdeithas Gleidio Prydeinig rhwng 1968 a 1970 ac roedd llywydd Clwb Gleidio Bryste a Swydd Gaerloyw.

Ymddangosodd yn y raglen deledu “This is your Life” ym 1956.[13]

Thumb
Cerflun yng Nghanolfan Wlyptir Llundain
Thumb
Gwarchodfa natur Slimbridge

Roedd o’n aelod o Gomisiwn Goroesiad Rhywogaethau IUCN o’r Undeb Rhyngwladol am Gadwriaeth Natur, ac roedd un o greadwyr y Llyfrau Coch, y rhestri o rywogaethau dan berygl.[14]

Roedd o’n llywydd y Gymdeithas o Artistiaid Bywyd Gwyllt a llywydd Ymddiriedolaeth Natur mewn Celf[15]. Dysgodd Scott sawl artist.

Roedd o’n gangellor Prifysgol Birmingham rhwng 1973 a 1983. Cafodd radd anrhydeddus o Brifysgol Caerfaddon ym 1979.[16]

Roedd o’n gapten yr yot ‘Sovereign’, yn cystadlu am yr ‘America’s Cup’ ym 1964, ond collodd. Rhwng 1955 a 1960 roedd o’n llywydd ‘World Sailing’.[17]

Roedd o’n un o sefydlwyr y Gronfa Fyd-eang dros Natur (WWF), a chynlluniodd ei logo, y Panda. Cyfrannodd ei waith dros gadwriaeth at newid polici’r Comisiwn Rhwngwladol dros Forfila a Chytundeb yr Antarctig.

Roedd o’n ddirpwy-lywydd y Gymdeithas o Naturiaethwyr Prydeinig, a sefydlwyd Gwobr Goffa Peter Scott ar ôl ei farwolaeth.[18]

Yr Anghenfil Loch Ness

Sefydlodd, gyda David James, cymdeithas i ymchwilio dirgelwch yr anghenfil ym 1962.[19]. Awgrymodd Scott yr enw Nessiteras rhombopteryx er mwyn cofrestru’r anghenfil fel rhywogaeth mewn perygl[20]. Sail yr enw oedd yr iaith Groeg hynafol.</ref>

Rhaglenni dogfen

Darlledwyd rhaglen amdano ar ITV yn Awst, enwyd 'Interest the Boy in Nature' gyda Konrad Lorenz, Tywysog Philip, David Attenborough a Gerald Durrell.

Roedd rhaglen am Peter Scott a David Attenborough ar BBC2 ym Mehefin 2000, enwyd ‘The Way we went wild’.

Dathlyd ei fywyd gyda rhaglen ddogfen BBC ‘In the Eye of the Wind’ yn y cyfres ‘Natural World’, gyda llais David Attenborough, yn dathlu 50fed penblwydd yr Ymddiriodolaeth Adar Dŵr a Thiroedd Gwlybion.

Roedd rhaglen ddogfen amdano yn 2006 ar BBC4, enwyd ‘Peter Scott – A Passion for Nature’[21]

Bu farw oherwydd trawiad ar y galon ym Mryste ar 29 Awst 1989, yn 79 oed.[22]

Remove ads

Bywyd personol

Priododd Scott nofelydd, Elizabeth Jane Howard yn 1942 a chawsant ferch, Nicola, ym 1943[23] Gadawodd Howard lei gŵr ym 1946 ac ysgaruwyd ym 1951.[24]

Priododd Scott ei gynorthwy-ydd Philippa Talbot-Ponsonby ym 1951 ar siwrnai i Wlad yr Iâ, yn chwilio am fan fridio’r ŵydd droedbinc. Cawsant ferch, Dafila, ym 1951. Daeth hi’n beintydd ac adar oedd ei harbenigaeth.[25] Cawsant fab, Falcon, ym 1954.[26]

Remove ads

Anrhydeddau

Derbynnodd o DSC oherwydd medr a dewrder ar 1 Mehefin 1943.[27] Cafodd MBE ym 1943[28] a CBE ym 1953.[29] Daeth o’n farchog ar 27 Chwefror 1973[30], ac yn aelod yr Urdd o’r Cydymeithion Anrhydedd ym 1987 am ei wasanaeth dros gadwraeth.[31] Enwyd ‘Scott’s Wrasse’ ar ôl iddo ac ei wraig am eu cyfraniad mawr dros gadwraeth.[32]

Etifeddiaeth

Mae Taith Cerdded Syr Peter Scott yn Swydd Norfolk[33][34] sy’n pasio aber Afon Nene ac yn mynd ar lan Y Wash o oleudy Peter Scott ger Sutton Bridge yn Swydd Lincoln i King’s Lynn.

Mae Parc Genedlaethol Syr Peter Scott ac Ysbyty Adar Syr Peter Scott yn Jamnagar, Gujarat, yr India yn dilyn gyfeillgarwch rhyng Scott a Jam Sahib, rheolwr Jamnagar ar y pryd.

Llyfryddiaeth

  • Morning flight. Country Life, Llundain 1936–44.
  • Wild chorus. Country Life, Llundain 1939.
  • Through the Air. (with Michael Bratby). Country Life, Llundain 1941.
  • The battle of the narrow seas. Country Life, White Lion a Scribners, Llundain, Efrog Newydd 1945–74. ISBN 0-85617-788-1
  • Portrait drawings. Country Life, Llundain 1949.
  • Key to the wildfowl of the world. Slimbridge 1950.
  • Wild geese and Eskimos. Country Life a Scribner, Llundain, Efrog Newydd 1951.
  • A thousand geese. Collins, Houghton a Mifflin, Llundain, Boston 1953/54.
  • A coloured key to the wildfowl of the world. Royle a Scribner, Llundain, Efrog Newydd 1957–88.
  • Wildfowl of the British Isles. Country Life, Llundain 1957.
  • The eye of the wind. (hunangofiant) Hodder, Stoughton a Brockhampton, Llundain, Caerlyr 1961–77. ISBN 0-340-04052-1, ISBN 0-340-21515-1
  • Animals in Africa. Potter a Cassell, Efrog Newydd, Llundain 1962–65.
  • My favourite stories of wild life. Lutterworth 1965.
  • Our vanishing wildlife. Doubleday, Garden City 1966.
  • Happy the man. Sphere, Llundain 1967.
  • Atlas en couleur des anatidés du monde. Le Bélier-Prisma, Paris 1970.
  • The wild swans at Slimbridge. Slimbridge 1970.
  • The swans. Joseph, Houghton a Mifflin, Llundain, Boston 1972. ISBN 0-7181-0707-1
  • The amazing world of animals. Nelson, Sunbury-on-Thames 1976. ISBN 0-17-149046-0
  • Observations of wildlife. Phaidon a Cornell, Rhydychen, Ithaca 1980. ISBN 0-7148-2041-5, ISBN 0-7148-2437-2, ISBN 0-8014-1341-9
  • Travel diaries of a naturalist. Collins, Llundain. 3 chyfrol: 1983, 1985, 1987. ISBN 0-00-217707-2, ISBN 0-00-219232-2, ISBN 0-00-219554-2
  • The crisis of the University. Croom Helm, Llundain 1984. ISBN 0-7099-3303-7, ISBN 0-7099-3310-X
  • Conservation of island birds. Caergrawnt 1985. ISBN 0-946888-04-3
  • The art of Peter Scott. Sinclair-Stevenson, Llundain 1992 p. m. ISBN 1-85619-100-1

Llyfrau eraill

  • The Wild Geese of the Newgrounds gan Paul Walkden; cyhoeddwyr: Ffrindiau o WWT Slimbridge, 2009. ISBN|978-0-9561070-0-8 gyda lluniau gan Peter Scott.
  • Peter Scott. Collected Writings 1933–1989. Casgliad gan Paul Walkden. Cyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt a Gwlyptiroedd, 2016. Llyfr clawr caled ISBN|978-0-900806-69-8, E-llyfr ISBN|978-0-900806-70-4. Gyda lluniau.

Hunangofiant

  • The Eye of the Wind, cyhoeddwyd gan Hodder a Stoughton, 1966.

Rhageiriau

  • The Red Book – Wildlife in Danger gan James Fisher, Noel Simon a Jack Vincent, Collins, 1969. Mae’r llyfr yn cydnabod bod Scott wedi rhoi’r syniad tu ôl y llyfr.
  • George Edward Lodge – Unpublished Bird Paintings gan C.A. Fleming (Pearson PLC) 1983; ISBN|0-7181-2212-7

Lluniau

  • Down the Long Wind – a study of bird migration, gan Garth Christian, 1961.
  • 'Waterfowl of the World' – gyda Jean Delacour, Country Life 1954
  • Gallico, Paul (1946), ‘The Snow Goose’ gan Paul Gallico, 1946, Michael Joseph, Llundain.

Ffilmiau

  • Wild Wings
Remove ads

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads