Pier Aberystwyth

pier rhestredig Gradd II yn Aberystwyth From Wikipedia, the free encyclopedia

Pier Aberystwyth
Remove ads

Pier Aberystwyth (Saesneg: Aberystwyth Royal Pier) oedd y pier gyntaf i'w agor yng Nghymru a hynny yn 1865. Wedi cyfres o ymosodiadau gan stormydd, mae'r pier gyfredol yn fersiwn byrrach o'r adeilad wreiddiol, a oedd yn 242 metr.

Ffeithiau sydyn Math, Sefydlwyd ...
Remove ads

Adeiladu

Yn ystod canol 19g datblygodd Aberystwyth fel canolfan wyliau a cheisiwyd ei gwerthu fel y "Biarritz of Wales."[1] Comisiynodd consortiwm o fusnesau lleol o dan yr enw Aberystwyth Promenade Pier Company i'r peiriannydd Eugenius Birch, gynllunio ac adeiladu'r Pier ar y cyd â'r contractwyr lleol J.E. Dowson. Roedd gan y strwythur bracedi gwialen haearn, pentyrrau haearn bwrw a cholofnau ategol wedi'u crynhoi i'r graig. Cyfanswm y cost adeiladu oedd £13,600.[2]

Remove ads

Dyddiau Cynnar

Thumb
'Aberystwith from the Castle' 1861; rhag-lun o'r Pier cyn iddi gael ei adeiladu

Agorwyd y Pier ar ddydd Gwener y Groglith yn 1865. Roedd yn rhaid i'r ymwelwyr dalu toll i gerdded arno a denwyd 7,000 o bobl ar y diwrod cyntaf hwnnw a oedd yn cyd-fynd gydag agoriad swyddogol llinell Reilffordd y Cambrian i Aberystwyth o Fachynlleth. Fodd bynnag, dyma oedd uchafbwynt y Pier dan ei berchnogion gwreiddiol - saith mis yn ddiweddarach, ym mis Ionawr 1866, achosodd storm fawr ddifrod difrifol a llusgwyd 30 metr (98 troedfedd) o ben pellaf y Pier i mewn i'r môr.[2]

Gan na allai'r perchnogion gwreiddiol fforddio ailosod yr adran a gollwyd, gwerthwyd y pier yn 1872. Disodlodd y perchnogion newydd y darn a gollwyd gydag adnewyddiad denheuach 70 metr (230 troedfedd) newydd, ac adeiladwyd oriel blaen newydd a chiosg lluniaeth.[2]

Ar ddiwedd y 19eg ychwanegwyd pafiliwn wydr newydd a gynlluniwyd gan Gordon Croydon-Marks ar y pen oedd ar y tir mawr. Codwyd hwn gan Bourne Engineering & Electrical Company, ac roedd yn cynnwys tair eil to gwydr, gyda'r gwaith haearn wedi'u haddurno mewn arddull Gothig. Gallai'r Pafiliwn newydd ddal 3,000 o bobl ac fe'i hagorwyd gan Dywysoges Cymru ar 26 Gorffennaf 1896.[2]

Remove ads

Y Pier yn 20g

Thumb
Mynedfa'r Pier, 2018

Ar nos Wener 14 Ionawr 1938, tarodd storm gyda chyflymder gwynt hyd at 90 mya (140 km/h) tref Aberystwyth. Dinistriwyd y rhan fwyaf o'r Promenâd, ynghyd â 61m (200 troedfedd) o'r pier, gan ostwng ei hyd gan hanner. Cafodd nifer o eiddo ar lan y môr eu difrodi, gyda phob adeilad i'r gogledd o Neuadd y Brenin wedi e hefeithio a'r rheini ar Ffordd Fuddug (Victoria Rd) yn dioddef y difrod fwyaf. Dechreuodd y gwaith ar argae coffer amddiffynnol tan 1940, gyda chyfanswm costau adeiladu yn dod at £70,000 (sy'n cyfateb i £2.5m heddiw).[3]

Ystyriwyd bod risg diogelwch i'w ailadeiladu yn ystod yr Ail Ryfel Byd fel iddi ei chadw ar gau. Ac, er i beth gwaith cael ei gwneud wedi hynny, roedd mewn cyflwr mor wael ac erbyn y 1970au roedd rhan ohono mewn cyflwr mor ddrwg roedd rhan ohono ar gau.[2]

Ym 1979, prynwyd Pier Royal Aberystwyth gan y Don Leisure Group, ac yn 1986 gwariwyd £250,000 ar welliannau i weddill y pier 91m (299 troedfedd). Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer adeiladu pier newydd ochr yn ochr â'r gwreiddiol, ond ni gwireddwyd y prosiect erioed. Agorwyd neuadd a bwyty snwcer newydd ym 1987, mewn pafiliwn wedi'i ailwampio.[2]

Heddiw, mae'r Pier yn cynnwys siop hufen iâ, tafarn, neuadd snwcer, bwyty, canolfan arcêd hap-chwarae a hefyd clwb nos.

Drudwy Aberystwyth

Thumb
Drudwy'n ymgasglu uwchben y pier

Mae'r Pier yn gartref i filoedd o ddrudwy sy'n nythu yno yn yr Hydref.[4] Daw pobl i Bromenâd Aberystwyth yn unswydd i fwynhau edrych ac i ffotograffu cymylau neu 'sisial' o ddrudwy wrth iddynt hedfan o gylch y Pier ac yna noswylio yno.[5]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads