Pigion y Talwrn

From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Detholiad o barddoniaeth o'r rhaglen radio a chystadleuaeth barddoni Talwrn y Beirdd a ddarlledir ar BBC Radio Cymru yw Pigion y Talwrn. Fe'i golygwyd gan Ceri Wyn Jones, meuryn y gystadlaeth ers 2012. Cyhoeddiadau Barddas a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2016.[1]

Ffeithiau sydyn Golygydd, Cyhoeddwr ...

Mae'n cynnwys y goreuon o'r pum cyfres gyntaf i Ceri Wyn Jones fod wrth y llyw, rhwng mis Ionawr 2012 ac Awst 2016: dros dri chant a hanner o gerddi a chwpledi, a hynny gan dros gant o feirdd gwahanol. Dyma gyfraniadau beirdd ledled Cymru sydd wedi ymddangos ar y rhaglen dros y pum mlynedd hynny. O drydargerddi i dribanau beddargraff, o limrigau i englynion, mae'r traddodiadol a'r cyfoes, y dwys a'r digri yn dod ynghyd yn y gyfrol hon.

Lansiwyd y gyfrol yng Nghlwb Rygbi'r Cwins, Caerfyrddin, nos Lun 14 Tachwedd 2016.

Remove ads

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads