Talwrn y Beirdd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Rhaglen radio a chystadleuaeth barddoni ydy Talwrn y Beirdd neu y Talwrn a ddarlledir ar BBC Radio Cymru. Ers 2012, y llywydd a'r meuryn yw Ceri Wyn Jones. Bu ei ragflaenydd, sef Gerallt Lloyd Owen, yn Feuryn am 32 flynedd.[1]
Hanes
Dechreuodd y rhaglen ar Radio Cymru ym 1979[2], gyda Gerallt Lloyd Owen yn meurynna[3]. Er hynny, roedd y rhaglen yn dilyn patrwm rhaglenni cynt ar y BBC dan yr enw Ymryson y Beirdd, a drefnwyd gan Sam Jones, gyda Robert John Rowlands yn feirniad yn aml.[4] Meuryn oedd enw barddol Robert John Rowlands, a datblygodd ei enw farddol yn air ar gyfer beirniad Ymryson y Beirdd ac yn ddiweddarach yn deitl ar gyfer Gerallt ac yna Ceri Wyn[5] - dywedir hefyd eu bod yn meurynnu neu'n meurynna y gystadleuaeth[6].
Remove ads
Timau buddugol diweddar
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Dolenni Allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads