Powerwall

From Wikipedia, the free encyclopedia

Powerwall
Remove ads

Batri lithiwm-ion aildrydanadwy yw Powerwall a gynhyrchir gan Tesla Motors ar gyfer y cartref. Gall storio ynni wedi'i gynhyrchu gan gelloedd solar, melin wynt neu ddull arall, lleol o gynhyrchu trydan. Gall hefyd ddefnyddio trydan o'r Grid Trydan Cenedlaethol fin nos, er mwyn ei ddefnyddio'n ystod y dydd.[1] Lansiwyd Powerwall gan Tesla Motors ar 30 Ebrill 2015,[2] a bydd ar werth am y pris cychwynnol o US$3,000 am fodel 7kW yr awr yn haf 2015.[3][4]

Thumb
Ffotograff gan gwmni Tesla Motors yn lansio'r Powerwall; fe'i welir yma'n gwefru car trydan.

Yng ngwanwyn 2015, cafwyd cynllun prawf yng Nghaliffornia gan ddefnyddio unedau 10-Kilowatt-yr-Awr mewn dros 500 o dai.[5]

Bydd Tesla Motors yn defnyddio SolarCity i fasnachu'r cynnyrch.[6][7]

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads