Prenteg

pentref yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia

Prenteg
Remove ads

Pentref bychan yng Ngwynedd yw Prenteg ("Cymorth – Sain" ynganiad ) a leolir ar y ffordd A498 tua 2 filltir i'r gogledd-ddwyrain o Dremadog. Mae'n rhan o gymuned Dolbenmaen.

Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...

Gorwedd y pentref ar groesffordd ar lan orllewinol Afon Glaslyn. Yn ogystal â'r A498 mae ffordd wledig yn ei gysylltu â Golan i'r gorllewin ac mae'r B4410 yn croesi'r afon Glaslyn i'w gysylltu â Garreg a Maentwrog. I'r de o'r pentref ceir Y Traeth Mawr. I'r gogledd mae'r bryniau yn codi i gyfeiriad Moel Hebog.

Yno ganwyd a magwyd y diddanwr a chwaraewr rygbi Ioan Gwilym.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads