R. Gwynedd Parry
Ysgolhaig a bargyfreithiwr o Gymro From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Ysgolhaig cyfreithiol yw yr Athro Richard Gwynedd Parry (ganwyd 1971). Mae ganddo gyhoeddiadau niferus ar bynciau cyfreithiol yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac mae llawer o'i waith ysgolheigaidd yn cysylltu'r gyfraith gyda hanes, hunaniaeth a diwylliant Cymru, ac yn enwedig y Gymraeg. Cyhoeddodd yn gyson mewn cylchgronau academaidd rhyngwladol ac ef yw cofiannydd y cyfreithiwr o Lanaelhaearn, Syr David Hughes Parry (1893-1973).[1] Ei gyhoeddiadau pwysicaf yn y Gymraeg yw'r cyfrolau Cymru'r Gyfraith: Sylwadau ar Hunaniaeth Gyfreithiol (Gwasg Prifysgol Cymru, 2012) a Y Gyfraith yn ein Llên (Gwasg Prifysgol Cymru, 2019).
Remove ads
Cefndir
Yn fab i'r Parchedig W. Gareth Parry ac Ann Parry (merch y Parchedig Ganon H. E. Jones, Y Bala), fe'i magwyd yn Llandderfel, Sir Feirionnydd cyn i'r teulu symud i ardal Llanrwst pan oedd yn blentyn ifanc. Roedd ei dad yn weinidog yr efengyl gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru, a'i daid yn offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru.
Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Llanddoged ac Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst.
Remove ads
Gyrfa
Graddiodd yn y gyfraith o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (LL.B, 1992), cyn mynychu Ysgol y Gyfraith Ysbytai'r Frawdlys (Inns of Court School of Law) yn Llundain. Fe'i galwyd i'r Bar o Ysbyty Gray's yn 1993. Bu wedyn yn ymarfer fel bargyfreithiwr ar Gylchdaith Cymru a Chaer o siambrau yn Abertawe, cyn iddo gael ei benodi i'w swydd academaidd gyntaf yn Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd ym 1999. Yn 2001, ymunodd ag Adran y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe fel darlithydd. Fe'i dyrchafwyd yn uwch-ddarlithydd yn 2007, a chafodd ei benodi i gadair bersonol yn y gyfraith yn 2011. Dyfarnwyd iddo radd doethur mewn athroniaeth yn y gyfraith gan Brifysgol Caerhirfryn yn 2008.[2]
Ers 2020, mae'n Bennaeth ar Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, gan iddo ymuno gyda'r Adran yn 2017.[3]
Remove ads
Anrhydeddau
Etholwyd ef yn Gymrawd o'r Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol yn 2010 ac yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2018.[4]
Yn 2020, dyfarnwyd iddo Wobr Hywel Dda gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, am ei gyfrol Y Gyfraith yn ein Llên (Gwasg Prifysgol Cymru, 2019).[5] Dyfernir y wobr am ragoriaeth mewn ysgolheictod ac am waith sydd yn "helaethu gwybodaeth am gyfraith a defod y Cymry yn yr oesoedd canol".[6]
Mae hefyd yn adnabyddus i lawer yng Nghymru fel unawdydd, ac ef oedd enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts (Y Rhuban Glas i gantorion ifanc) yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Ogwr 1998.[7]
Bywyd personol
Mae'n briod a Meinir Angharad Jones Parry (merch yr arlunydd Aneurin Jones) ers 1998, ac y mae ganddynt dri o feibion.
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads