RNA

From Wikipedia, the free encyclopedia

RNA
Remove ads

Un o'r asidau niwclëig yw RNA[2] (Ribonucleic acid (Saesneg)). Mae'n chwarae rhannau anhepgorol ym mhob cell byw. Mae i RNA nifer o swyddogaethau gwahanol. Er enghraifft, mae mRNA (m = "messenger" (Saes), negesydd) yn rhan o'r broses o drosglwyddo'r wybodaeth a gedwir yn nhrefn niwcleotidau DNA i strwythur protinau. Proteinau yw'r catalyddion gweithredol sy'n gyfrifol am yr hyn yr adnabyddir fel bywyd biolegol. Mae tRNA (t = trosi) yn allweddol yn y broses o drosi'r wybodaeth yn nilyniant DNA (mewn "iaith" niwcleotidau) i ddilyniant asidau amino proteinau, tra bo rRNA (r = ribosom) yn chwarae rhannau yn strwythur ac ymddygiad ribosomau (yr organynnau sy'n adeiladu protinau).[3]

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...
Thumb
Dolen pin-gwallt pre-mRNA. Dangosir y basau (gwyrdd) a'r asgwrn-cefn ribos a ffosffad (glas). Un edafeddyn o RNA yw hwn sy'n plygu yn ôl ar ei hun.[1]

Yng nghanrif 21, darganfuwyd sawl math o RNA sy'n ymwneud â rheoli gweithgaredd celloedd. Disgwylir i sawl un o'r rhain fod yn bwysig mewn biotechnoleg ac ym meddyginiaethau'r dyfodol.

Remove ads

Cyfeiriadau

Dolennau allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads