Monaco

From Wikipedia, the free encyclopedia

Monaco
Remove ads

Gwlad fechan rhwng Môr y Canoldir a Ffrainc yw Tywysogaeth Monaco neu Monaco (a ynganir MÒNaco).

Ffeithiau sydyn Arwyddair, Math ...

Yn hanesyddol ac yn draddodiadol, tywysog ac nid brenin yw pennaeth Monaco. Roedd brenhinedd Ffrainc yn gwrthod gadael pennaeth gwlad fechan mor agos i Ffrainc alw ei hunan yn frenin.

Remove ads

Cymdogaethau Monaco

Yn sylfaenol mae gan Monaco bedair cymdogaeth:

(o'r gorllewin i'r dwyrain)

  • Fontvieille : cymdogaeth ddiwydiannol; diwydiannau ysgafn, canolfan siopa, stadiwm pêl-droed Louis II, harbwr, porthladd hofrennydd.
  • Monaco-Ville : y brifddinas; plas y tywysog, yr eglwys gadeiriol, neuadd y ddinas, amgueddfa cefnforol.
  • La Condamine : siopau, pwll nofio, yr harbwr.
  • Monte-Carlo : casino, gwestai, sinema, canolfan siopa, amgueddfeydd, neuadd arddangosfa, clybiau chwaraeon, traethau.
Thumb
Cymdogaethau Monaco

Gan fod Monaco mor adeiledig, mae ambell gymdogaeth yn Ffrainc:

  • Cap d'Ail i'r gorllewin,
  • Beausoleil i'r gogledd a
  • Roquebrune-Cap-Martin i'r dwyrain
Thumb
Golygfa Harbwr Monaco
Remove ads

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads