Rhydychen

dinas yn Lloegr From Wikipedia, the free encyclopedia

Rhydychen
Remove ads

Dinas yn Swydd Rydychen, De-ddwyrain Lloegr, yw Rhydychen (Saesneg: Oxford, hen enw Oxenaford).[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Dinas Rhydychen. Hi yw tref sirol Swydd Rydychen.

Ffeithiau sydyn Math, Ardal weinyddol ...
Thumb
Eglwys y brifysgol

Yng nghyfrifiad 2001 roedd y boblogaeth yn 134,248.

Llifa Afon Cherwell ac Afon Tafwys drwy ganol Rhydychen gan gyfarfod i'r de o ganol y ddinas. Fodd bynnag, yn Rhydychen ac am tua 10 milltir (16 km) a'r ardal gyfagos, gelwir Afon Tafwys yn "Isis".

Saif sy tua 60 milltir i'r gogledd-orllewin o Lundain.

Mae gan y ddinas ddwy brifysgol. Prifysgol Rhydychen yw'r brifysgol hynaf yn Lloegr; ymhlith y Cymry fu yno oedd Owain Glyndŵr ac O. M. Edwards. Mae Prifysgol Brookes (Oxford Polytechnic yn gynt) yna hefyd. Mae'r diwydiant ceir yn bwysig i'r economi lleol — cynhyrchir y BMW Mini yn Cowley yn ne-ddwyrain y ddinas — ond lleihawyd y cynnyrch ers y 1970au.

Mae hanes Rhydychen yn estyn yn ôl i gyfnod y Sacsoniaid. Ganwyd John, brenin Lloegr, yn Rhydychen. Defnyddiodd Brenin Siarl I Rydychen fel ei lys yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr.

Mae'r adeiladau yn Rhydychen yn adlewyrchu pob cyfnod pensaernïol yn hanes Lloegr ers dyfodiad y Sacsoniaid, gan gynnwys y Radcliffe Camera o ganol y 18g. Mae adeilad hynaf y ddinas, sef eglwys Mihangel Sant, yn dyddio o 1040. Adnabyddir Rhydychen fel y "city of dreaming spires", term a fathwyd gan y bardd Matthew Arnold i ddisgrifio pensaernïaeth adeiladau prifysgol Rhydychen.

Remove ads

Adeiladau a chofadeiladau

  • Amgueddfa'r Ashmolean
  • Castell Rhydychen
  • Coffa'r Merthyron
  • Eglwys y Forwyn Fair
  • Llyfrgell Bodleian
  • Theatr Sheldonian
  • Tŵr Carfax

Enwogion

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads