Rhys ap Dafydd ab Einion
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Rhys ap Dafydd ab Einion (fl. 14g).
Cefndir
Ni wyddys dim o gwbl am y bardd. Ceir tri gŵr a rannai'r un enw yng nghofnodion y 14g, o Bowys a Sir Gaerfyrddin, ond nid oes modd uniaethu'r bardd â'r un ohonynt.[1]
Cerdd
Un gerdd yn unig gan Rhys sydd wedi goroesi. Cyfres o ddeg englyn dychan i un o'r enw Sawl ydyw. Cedwir y testun cynharaf yn adran farddoniaeth Llyfr Coch Hergest (tua 1400). Dychenir Sawl fel lleidr a dihiryn sy'n haeddu ei grogi: byddai pawb yn falch o glywed ei farwnad. Dyma'r englyn agoriadol (mae Sawl yn y carchar):
Pwy wyd, mab gwrab girad,—corgïan
Mywn cwr geol gaead?
Mab i'r butain wain wibiad,
Ni ŵyr Sawl, faw diawl, ei dad.[1]
Remove ads
Llyfryddiaeth
- Gwaith Prydydd Breuan a cherddi dychan eraill o Lyfr Coch Hergest, gol. Huw Meirion Edwards, Cyfres Beirdd yr Uchelwy (Aberystwyth, 2000)
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads