Robat Arwyn
cyfansoddwr a aned yn 1959 From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Cyfansoddwr a anwyd yn Nhalysarn, Gwynedd, ond sy'n byw yn Rhuthun, Sir Ddinbych ers 1981 yw Robert Arwyn Jones (ganwyd Tachwedd 1959) a adnabyddir ers 1982 fel Robat Arwyn.
Graddiodd mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn 1980 a chafodd Ddiploma mewn Llyfrgellyddiaeth yng Ngholeg Llyfrgellwyr Cymru, Aberystwyth yn 1981. Symudodd o'r coleg i Ddinbych lle bu'n gweithio fel llyfrgellydd. Oddi yno symudodd i Ruthun gan weithio yn yr Hen Garchar, ger yr archifdy.
Gyda'r prifardd Robin Llwyd ab Owain cyfansoddodd y gerddoriaeth i ganeuon megis: 'Gwin Beaujolais', 'Pedair Oed' a 'Brenin y Sêr'. Bu Robat Arwyn hefyd yn flaenllaw iawn gyda'r grwp gwerin Trisgell yn y 1980au a Chôr Ieuenctid Rhuthun (yna 'Côr Rhuthun) yn ddiweddarach, gan ddod yn arweinydd arnynt wedi marwolaeth Morfydd Vaughan-Evans yn Ionawr 2008. Mae ganddo ddau o blant.[1] Cyfansoddodd yr alaw i rai o'r caneuon mewn dramâu cerdd fel Ceidwad y Gannwyll (1985), Iarlles y Ffynnon (1992-3) a Pwy bia'r Gân? (2003).
Yn 2009 rhyddhawyd CD gan dri offeiriad Pabyddol o Iwerddon ar label Sony. Roedd y caneuon yn cynnwys Benedictus gan Robat Arwyn.
Remove ads
Trisgell
Bu'n aelod o'r grwp Trisgell yn y 1980au cynnar. Dyma ddetholiad o ganeuon a recordiwyd ganddyn nhw:
Sioeau cerdd
Cyfansoddodd Robat Arwyn y gerddoriaeth i rai o'r caneuon yn y sioeau canlynol:
- Ceidwad y Gannwyll (1985). Comisiwn gan Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl.
- Rhys a Meinir (1987). Perfformiwyd gan Gwmni Theatr ardal Rhuthun yn 1987.
- Iarlles y Ffynnon (1996). Comisiwn gan Gyngor Sir Gwynedd. Perfformiwyd gan ddisgyblion Ysgol Glan Cegin, Maesgeirchen, Chwefror 1996.
- Pwy bia'r Gân? (2003). Comisiynwyd gan Adran y Gymraeg, Cyngor Sir Ddinbych a'i pherfformio gan blant Blynyddoedd 5 a 6 ysgolion dalgylch Rhuthun yn Hydref 2003.
Remove ads
Llyfrau
Mae'r cyfansoddwr wedi cyhoeddi oddeutu deg o gasgliadau o ganeuon, gan gynnwys Atgof o'r Sêr (Curiad), Er Hwylio'r Haul (Curiad), Er Mwyn Yfory (Y Lolfa) a Gwin Beaujolais (Y Lolfa). [2]
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads