Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu)

bardd Cymreig From Wikipedia, the free encyclopedia

Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu)
Remove ads

Bardd ac emynydd Cymraeg oedd Robert Williams, mwy adnabyddus fel Robert ap Gwilym Ddu (6 Rhagfyr 1766 - 11 Gorffennaf 1850).[1] Ef oedd yr hynaf o Feirdd Eifionydd.

Ffeithiau sydyn Ffugenw, Ganwyd ...
Thumb
Capel y Beirdd ger Rhoslan, Cricieth; lle mynychodd Robert ar adegau, er nad oedd yn aelod yno.
Remove ads

Bywyd a gwaith

Thumb
Ffermdy'r Betws Fawr, cartref y bardd.

Ganed ef yn ffermdy'r Betws Fawr ym mhlwyf Llanystumdwy yn Eifionydd. Enw'i fam oedd Jane (neé Parry) a'i dad oedd Williams Williams; roedd ganddo ddwy chwaer ac un brawd a gwyddwn i un o'i chwiorydd symud i Lanbedr ar ôl priodi. Bu'n ffermio yn y "Betws Fawr" am y rhan fwyaf o'i oes. Priododd ferch ifanc o'r enw Catrin Elizabeth pan oedd tua 50 oed, a chafodd un ferch, Jane Elizabeth, ond bu hi farw yn 17 oed yn 1834 o'r diciau (neu y ddarfodigaeth).[2] Mae marwnad ei thad iddi yn adnabyddus.

Roedd Robert yn gyfaill i'r bardd Dewi Wyn o Eifion ac i'r pregethwr J. R. Jones, Ramoth.[1]

Ystyrir ef yn un o feirdd gorau ei gyfnod yn y mesurau caeth, ac mae nifer o'i emynau yn boblogaidd, yn enwedig "Mae'r gwaed a redodd ar y groes":

Mae'r gwaed a redodd ar y groes
O oes i oes i'w gofio;
Rhy fyr yw tragwyddoldeb llawn
I ddweud yn iawn amdano. [...]

Remove ads

Llyfryddiaeth

  • Gardd Eifion (1841). Casgliad o waith y bardd.
  • Cybi (gol.), Lloffion yr Ardd, barddoniaeth anghyhoeddedig Robert ab Gwilym Ddu (1911)

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads