Rowen

pentref ym mwrdeistref sirol Conwy From Wikipedia, the free encyclopedia

Rowen
Remove ads

Pentref yng nghymuned Caerhun, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Rowen[1] neu Ro-wen, weithiau Y Ro. Daw'r enw o "gro wen". Saif ychydig oddi ar y ffordd B5106, rhwng Dolgarrog a Chonwy, ar ochr orllewinol Dyffryn Conwy.

Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...

Mae Afon Ro yn llifo trwy'r pentref cyn ymuno ag Afon Conwy. Mae gan y pentref siop a thafarn, ac mae hostel ieuenctid ychydig i'r gorllewin o'r pentref. Roedd y pentref yn bwysicach yn y gorffennol, gyfa thair melin a phandy yma.

O ddilyn y ffordd heibio'r hostel ieuenctid, mae'n troi'n ffordd drol sy'n dilyn llinell y ffordd Rhufeinig o Canovium (Caerhun) i Segontium (Caernarfon). Gellir dilyn y ffordd yma i fyny i gyfeiriad Bwlch y Ddeufaen, gan basio nifer o henebion diddorol, megis siambr gladdu Maen y Bardd o'r cyfnod Neolithig. Ceir hen eglwys Llangelynnin gerllaw hefyd.


Remove ads

Yr hen Rowen

Cae Llyn, Y Ro Wen - ddoe ac echdoe.

Ar gefn y llun[2] ar y chwith (gan Benjamin Fisher) y mae’r enw Pen Rhiw Troed. Diflannodd y llyn cyn cof, ond 'Cae Llyn' yw'r enw ar y cae o hyd. Fe sylwch bod y ffordd wedi 'dwyn' rhan o'r cae. Ai dyna pam y sychwyd y llyn? Llun ar y dde gan Gareth Pritchard. Pam ffurfiwyd y llyn, a pham y’i sychwyd ... a phryd?

Pobl o Rowen

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads