Sderot
dinas, Israel From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Dinas yn y Negev yn ne Israel yw Sderot (Hebraeg: שְׂדֵרוֹת ; Arabeg: سديروت). Ar ddiwedd 2006 roedd ganddi boblogaeth o 19,300. Mewnfudwyr o Iddewon o sawl gwlad, yn bennaf o Ogledd Affrica a'r hen Undeb Sofietaidd, yw trwch y boblogaeth.

Mae'n gorwedd yn agos i'r ffin rhwng Israel a Llain Gaza ac o ganlyniad mae wedi cael ei thargedu sawl gwaith gan rocedi Qassam sy'n cael eu tanio o'r llain. Ym March 2008, cyhoeddodd y maer fod y boblogaeth wedi disgyn tua 10%-15% wrth i deuluoedd ffoi (mae'n bosibl fod y ffigwr yn agosach at 25%)[angen ffynhonnell]. Mae 13 o bobl wedi cael eu lladd yno gan rocedi ers 2001.
Remove ads
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
