Seineg

From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Astudiaeth seiniau iaith lafar yw seineg, ac fe ystyrir yn un o brif feysydd ieithyddiaeth, yr astudiaeth wyddonol o iaith. Yn seineg astudir priodweddau'r seiniau eu hunain, y modd y caent eu cynhyrchu, eu clywed a'u deall. Mae'n wahanol, felly, i ffonoleg, sef yr astudiaeth o systemau seinegol haniaethol. Mae seineg yn ymdrin â'r seiniau eu hunain yn hytrach na'u cyd-destyn mewn iaith. Ni thrafodir semanteg (sef astudiaeth ystyr ieithyddol) ar y lefel hon o ddadansoddiad.

Ieithyddiaeth
Ieithyddiaeth ddamcaniaethol
Arddulleg
Cystrawen
Ffonoleg
Ieithyddiaeth wybyddol
Morffoleg
Pragmateg
Semanteg
Semanteg eirfaol
Semioteg
Ieithyddiaeth ddisgrifiadol
Geirdarddiad
Ieithyddiaeth gymdeithasol
Ieithyddiaeth gymharol
Ieithyddiaeth hanesyddol
Seineg
Ieithyddiaeth gymhwysol
Caffael iaith

Mae tair prif gangen i seineg:

  • seineg ynganol, sy'n ymwneud â lleoliad a symudiad y gwefusau, y tafod, tannau'r llais ac yn y blaen;
  • seineg acwstig, sy'n ymwneud â phriodweddau tonnau sain a sut caent eu derbyn gan y glust fewnol; a
  • seineg clybydol, sy'n ymwneud â synhwyro lleisiau, yn bennaf sut mae'r ymenydd yn gallu cynrychioli mewnbwn lleisiol.

Astudiwyd seineg cyn gynhared â 2,500 mlynedd yn ôl yn yr India, gydag eglurhad y gramadegydd Pāṇini o leoliad a natur ynganiad cytseiniaid yn ei draethawd gramadegol ar Sansgrit.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: seineg ynganol, seineg acwstig, seineg clybydol o'r Saesneg "articulatory phonetics, acoustic phonetics, auditory phonetics". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.
Remove ads

Dolenni

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads