Sgrin gyffwrdd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Dyfais fewnbwn electronig yw'r sgrin gyffwrdd, a ddefnyddir i weithio dyfais prosesu gwybodaeth fel ffôn neu liniadur. Gall y defnyddiwr reoli'r system brosesu gwybodaeth hon trwy gyffwrdd â'r sgrîn gyda stylus arbennig neu ei fysedd. Mae'r haen dryloyw yma'n caniatau i'r defnyddiwr ymateb i'r hyn a ddangosir ar y sgrin, ac wrth wneud hyn, mae'r defnyddiwr yn mewnbynnu gwybodaeth. Dull amgen o fewnbynnu gwybodaeth yw drwy roi cyfarwyddyd llais i'r ddyfais; yr hen ddull oedd drwy symud llygoden electronig.

Gosodir sgrin gyffwrdd mewn teclynnau a dyfeisiau megis consolau gêm Nintendo, cyfrifiaduron personol, gliniaduron, peiriannau pleidleisio electronig, i reoli gwres a golau yn y cartref ac mewn siopau (POS) ayb. Gallant fod ynghlwm wrth gyfrifiaduron neu i derfynellau rhwydweithiau.
Remove ads
Hanes

Disgrifiodd Eric Johnson, o'r Sefydliad Radar Brenhinol, a leolir yn Malvern, Lloegr ei waith ar sgriniau cyffwrdd mewn erthygl fer a gyhoeddwyd ym 1965 ac yna'n llawn, gyda ffotograffau a diagramau, mewn erthygl a gyhoeddwyd ym 1967.[5][6]
Disgrifiwyd cymhwyso technoleg sgriniau cyffwrdd ar gyfer rheoli traffig awyr mewn erthygl a gyhoeddwyd ym 1968. Datblygodd Frank Beck a Bent Stumpe, peirianwyr yn CERN (Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear), sgrin gyffwrdd tryloyw yn y 1970au cynnar, yn seiliedig ar waith Stumpe mewn ffatri deledu yn y 1960au cynnar.[7] Yna datblygodd y dyfeisiwr Americanaidd George Samuel Hurst sgrin gyffwrdd a gafodd batent yr Unol Daleithiau Rhif 3,911,215 ar 7 Hydref, 1975.[8] Cynhyrchwyd y fersiwn gyntaf yn 1982.[9]
Y ffôn cyntaf i gynnwys sgrin gyffwrdd oedd LG Prada, a hynny ym Mai 2007, gan ragflaenu'r iPhone.
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads