Sidney Poitier
cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ac actor a aned yn Cat Island yn 1927 From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Roedd Sidney L. Poitier KBE (/ˈpwɑːtjeɪ/; 20 Chwefror 1927 – 6 Ionawr 2022)[1] yn actor Bahamaidd-Americanaidd, cyfarwyddwr ffilm, actifydd, a llysgennad. Ym 1964, enillodd Wobr yr Academi am yr Actor Gorau, gan ddod yr actor du cyntaf i ennill y wobr. [2] Derbyniodd ddau enwebiad Gwobr Academi arall, deg enwebiad Golden Globe, dau enwebiad Gwobrau Primetime Emmy, chwe enwebiad BAFTA, wyth enwebiad Laurel, ac un enwebiad Gwobrau Screen Actors Guild. Ar farwolaeth Kirk Douglas yn 2020, daeth Poitier yn un o'r sêr mawr olaf i oroesi o Oes Aur sinema Hollywood, ac enillydd Gwobr Academi gwrywaidd hynaf a chynharaf sydd wedi goroesi. Rhwng 1997 a 2007, gwasanaethodd Poitier fel Llysgennad Y Bahamas i Japan. [3]
Cafodd Sidney L. Poitier ei eni yn Miami, UDA, fel yr ieuengaf o saith o blant,[4] yn fab i Evelyn (g. Outten) a Reginald James Poitier, ffermwyr Bahamaidd. Bu Reginald hefyd yn gweithio fel gyrrwr cab yn Nassau, Bahamas. [5] Cafodd Poitier ei fagu yn y Bahamas, a oedd ar y pryd yn drefedigaeth y Goron Brydeinig. Oherwydd fe'i ganwyd (yn annisgwyl) yn yr Unol Daleithiau, roedd ganddo hawl awtomatig i ddinasyddiaeth UDA.[6]
Remove ads
Ffilmiau
- Cry, the Beloved Country (1951)
- Blackboard Jungle (1955)
- Band of Angels (1957)
- The Defiant Ones (1958)
- Porgy and Bess (1959)
- A Raisin in the Sun (1961)
- The Long Ships (1963)
- Lilies of the Field (1963)
- The Greatest Story Ever Told (1965)
- To Sir, with Love (1967)
- In the Heat of the Night (1967)
- Guess Who's Coming to Dinner (1967)
- They Call Me Mister Tibbs! (1970)
- Buck and the Preacher (1972)
- To Sir, with Love II (1996, ffilm teledu)
- Mandela and de Klerk (1997, ffilm teledu)
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads