Slofacia

gwlad From Wikipedia, the free encyclopedia

Slofacia
Remove ads

Gweriniaeth yng nghanolbarth Ewrop yw Gweriniaeth Slofacia (Slovenská republika, Ynghylch y sain ymagwrando )[1] neu Slofacia (Slovensko), rhan ddwyreinol yr hen Tsiecoslofacia. Y gwledydd gyfagos yw Gweriniaeth Tsiec, Gwlad Pwyl, Wcrain, Hwngari ac Awstria. Y brifddinas yw Bratislava sydd a thros 5.4 miliwn o boblogaeth, gyda'r rhan fwyaf Slofaciaid.[2][3] Arwynebedd y wlad yw 49,000 metr sgcilowar (19,000 mi sgw). Yr unig iaith swyddogol yw'r Slofaceg, er ceir lleiafrif Hwngareg eu hiaith ar hyd y ffin a Hwngari.

Ffeithiau sydyn Arwyddair, Math ...

Cyrhaeddodd y Slafiaid y darn hwn o dir, a elwir yn Slofacia heddiw, yn y 5ed a'r 6g. Yn y 7g, chwaraeodd y Slafiaid ran allweddol yn y gwaith o greu Ymerodraeth y Samo, ac eilwaith yn 9g gan sefydlu a ffurfio Tywysogaeth Nitra. Concrwyd Nitra'n ddiweddarach gan Dywysogaeth Moravia a'i galw'n "Moreafia Fawr". Yn y 10g, pan ddaeth Morafia fawr i ben unwyd hi â Thywysogaeth Hwngari i ffurfio Brenhiniaeth Hwngari yn 1000.

Yn 1241-2, difethwyd llawer o'r trefi a'r pentrefi gan y Mongolwyr, wrth iddynt geisio goresgyn Canol a Dwyrain Ewrop. Adferwyd llawer o'r wlad gan Béla IV o Hwngari, a daeth llawer o bobl a siarai Almaeneg-Cipszer, gan sefydlogi ychydig ar y wlad, yn enwedig yng Nghanol a Dwyrain Slofacia.

Remove ads

Daearyddiaeth

Prif: Daearyddiaeth Slofacia
Thumb
Cymharu maint a lleoliad Slofacia a Chymru

Mae Slofacia'n gowedd rhwng lledred 47° a 50° Gogledd, a hydred 16° a 23° Dwyrain. Yn gyffredinol, gellwir dweud mai ardal fynyddig yw'r tirwedd, gyda Mynyddoedd y Carpatiau (2,655 m (8,711 tr)) yn ymestyn ar draws hanner gogleddol y wlad. Ymhlith y copaon uchaf mae Fatra-Tatra sy'n cynnwys Mynyddoedd y Tatra, y Veľká Fatra a'r Slovenské rudohorie. Yr iseldir mwyaf yw Iseldir y Danube yn y de-orllewin, gydag Iseldir Dwyrain Slofacia'n dynn wrth ei sodlau. Mae 41% o Slofacia'n goedwigoedd.

Remove ads

Hanes

Prif: Hanes Slofacia

Gwleidyddiaeth

Prif: Gwleidyddiaeth Slofacia

Diwylliant

Prif: Diwylliant Slofacia

Chwaraeon

Mae Cymdeithas Bêl-droed Slofacia yn gyfrifol am strwythur y gêm yn y weriniaeth gan gynnwys yr Uwch Gynghrair.

Economi

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads