Steffan Lewis
gwleidydd (1984-2019) From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Gwleidydd Cymreig ac aelod o Blaid Cymru oedd Steffan Lewis (30 Mai 1984 – 11 Ionawr 2019). Roedd yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru dros Etholaeth ranbarthol Dwyrain De Cymru.[1]
Remove ads
Bywyd cynnar ac addysg
Magwyd Steffan Lewis ar aelwyd ddwyieithog ym Mhont-y-cymer ac yn Nhredegar. Mynychodd Ysgol Gynradd Swffryd cyn symud i Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon yn Abercarn ac yna i Ysgol Gyfun Gwynllyw. Graddiodd mewn Hanes ac Astudiaethau Americanaidd o Brifysgol Morgannwg ac yna bu Steffan yn gweithio yn y Cynulliad Cenedlaethol fel uwch swyddog ymchwilio a chyfathrebu.[2]
Gyrfa wleidyddol
Roedd yn gynghorydd tref yn y Coed Duon. Yn 2010, cafodd ei ddewis fel ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Islwyn[3] a daeth yn drydydd.
Yn 2015, fe'i dewiswyd fel ymgeisydd ar frig rhestr Plaid Cymru ar gyfer rhanbarth Dwyrain De Cymru [4] ac fe'i hetholwyd yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2016; yr aelod ieuengaf ar y pryd.[5]. Cafodd ei wneud yn lefarydd Materion Allanol Plaid Cymru, gyda chyfrifoldeb tros Brexit, materion allanol a rhyngwladol, a'r Cwnsler Cyffredinol.
Remove ads
Salwch a marwolaeth
Blwyddyn un unig wedi iddo gymryd ei sedd yn y Senedd, cafodd ddiagnosis o ganser y coluddyn yn Rhagfyr 2017, a chanfuwyd fod yr afiechyd wedi lledu i rannau eraill o'i gorff. Am fod y canser wedi datblygu'n sylweddol ac yn ei bedwerydd cyfnod, dywedodd ei feddygon nad oedd disgwyl iddo wella. Er gwaetha'r afiechyd aeth ymlaen gyda'i waith fel AC a llefarydd Plaid Cymru dros Brexit. Bu hefyd yn siarad yn agored am frwydro'r salwch a sut roedd yn ymdopi.[6]
Bu farw yn Ysbyty Ystrad Fawr yn Ystrad Mynach ar 11 Ionawr 2019. Talwyd teyrngedau iddo ar draws y pleidiau yn y Cynulliad. Dywedodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru:
“ |
Bydd yn cael ei gofio fel gwleidydd neilltuol o dalentog a gyflawnodd gymaint yn ystod ei gyfnod fel gwleidydd etholedig, cyfnod sydd wedi ei dorri yn fyr mewn amgylchiadau torcalonnus." |
” |
Bywyd personol
Roedd yn byw yn y Coed Duon gyda'i wraig Shona ac eu mab Celyn. Roedd ei ddiddordebau y tu allan i'r byd gwleidyddol yn cynnwys pêl-droed a theithio.
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads