Storio data

From Wikipedia, the free encyclopedia

Storio data
Remove ads

Cofnodi gwybodaeth a'i gadw dros gyfnod o amser yw storio data. Ymhlith yr enghreifftiau o storio data mae: ysgrifennu, DNA ac RNA, recordiad ffonograffig, tâp magnetig a disgiau optegol, y co bach, CD-ROMiau a chodau bar. Mae'r dulliau digidol o storio data, integreiddio data, cloddio data, glanhau data, dadansoddi data a phrosesu data yn ddibynnol ar drydan. Gelwir y math hwn o ddata'n "ddata digidol".

Thumb
Cyfrwng biolegol i storio data yw helics dwbwl o RNA

Un o amcanion pwysicaf y cyfrifiadur yw storio data digidol ac un o fanteision storio dogfennau ar ffurf digidol yw eu bod yn cymryd llai o le i'w storio na'r dogfennau papur traddodiadol. Mantais arall yw y gellir gwneud copiau perffaith o'r ddogfen heb fawr o drafferth, ac felly mae diogelwch y wybodaeth yn y ddogfen yn fwy diogel. Gellir cadw copiau o'r ffeil ar weinydd cyfrifiadurol mewn adeilad arall, rhag ofn i'r gweinydd dorri, neu fethu mewn unrhyw fodd. Ond ceir ochr negyddol i wneud mwy nag un copi, sef ei bod yn anos gwarchod y data rhag pobl na ddylent ei weld; oherwydd hyn, mae llywodraethiant data wedi'i ddiffinio drwy ddeddfau.

Remove ads

Recordio llais a llun

Pan feddwn dalent plentyn
I weld llais a chlywed llun... (Gerallt Lloyd Owen)

Llais

Mae recordio yn golygu gwneud copi ffisegol a cheir sawl cyfrwng recordio, gan gynnwys print, ffilm, cyfrwng magnetig a chyfrwng optegol. Recordir y gweladwy a'r clywadwy mewn sawl ffurf: ffôn, radio, teledu a'r rhyngrwyd, yn ogystal â bod mewn llif byw, heb recordiad. Gelwir y rhain yn "gyfryngau digidol". Dyma rai o'r cerrig milltir pwysicaf o ran storio data sain:

Llun

Cychwynwyd y gallu i storio data gweladwy ganrifoedd wedi'r camera obscura a hynny yn 1816 gan Nicéphore Niépce.[1][2] Y cyfrwng ym oedd papur gyda haen denau o arian clorid (silver chloride) arno, ond gan na fedrai rewi neu gadw'r llun, dros amser tywyllai'n llwyr. Yn y 1820au, yn dilyn llawer o arbrofion gyda bitwmen, roedd y broses o storio'r llun wedi'i berffeithio.[3] Pan fu farw yn 1833, cydio ei nai Louis Daguerre yn yr arbrofion gan eu mireinio ymhellach, ac erbyn 1837 roedd y broses yn cael ei alw'n "daguerreotype" a lansiwyd hon yn fasnachol.

Deilliodd y camerau digidol cyntaf yn 1961 gan y seryddwr Eugene F. Lally o'r Jet Propulsion Laboratory, a welodd gysylltiad rhwng y ffotosensor a'r byd digidol newydd a oedd yn dechrau ymddangos, ond nid oedd y dechnoleg yn ddigon da, er ei syniadau. Ond erbyn Chwefror 1975 roedd y 'Cromemco Cyclops' wedi'i lansio fel "camera i hobïwr"![4]

Erbyn yr 21g, roedd sawl dull ar gyfer cadw'r data, gan gynnwys y canlynol:

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads