Stourbridge
tref yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr (sir) From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Tref yn sir Gorllewin Canolbarth Lloegr, yn rhanbarth Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Stourbridge.[1] Fe'i lleolir mewn ardal di-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Dudley. Yn hanesyddol bu'n rhan o Swydd Gaerwrangon, roedd Stourbridge yn ganolfan gwydr, erbyn heddiw mae'n cynnwys maestrefi Amblecote, Lye, Norton, Oldswinford, Pedmore, Wollaston a Wollescote. Lleolir ger cyffordd yr A449, yr A458 a'r A451. Mae Caerdydd 127.8 km i ffwrdd o Stourbridge ac mae Llundain yn 175.6 km. Y ddinas agosaf ydy Wolverhampton sy'n 15.2 km i ffwrdd.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Stourbridge boblogaeth o 63,298.[2] Mae rhan fawr o'r boblogaeth yn gymudwyr i Birmingham a'r Black Country. Mae Stourbridge yn rhan o etholaeth Stourbridge.
Ychwanegwyd y gromfan a sgrîn y gangell ogleddol yn Eglwys Sant Thomas gan W. H. William Bidlake.[3]
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

