Stuart Burrows
Canwr opera o Gymru (1939-2025) From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Canwr opera tenor o Gymru oedd Stuart Burrows OBE (7 Chwefror 1933 – 29 Mehefin 2025). Daeth yn fyd-enwog am ganu oratorios ac operâu, yn enwedig darnau clasurol Puccini, Verdi, Donizetti a Mozart. Gelwid ef 'y tenor Mozart gorau erioed' gan Rhys Meirion.[1]
Remove ads
Bywyd cynnar
Ganwyd Stuart yn 19 William Street, ym mhentre Cilfynydd ger Pontypridd, sef yr un stryd a seren arall y byd opera - Syr Geraint Evans. Dechreuodd ganu yn ddeg oed yng nghôr y capel a bu'n cystadlu mewn amryw o eisteddfodau.
Yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1959 enillodd Wobr Goffa David Ellis a hynny ar ei ymgais gyntaf.[1]
Gyrfa
Cychwynnodd ei yrfa fel athro mewn ysgol gynradd ym Margoed. Yn 1963 pasiodd glyweliad ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru a throdd yn gantor broffesiynol. Yn 1978 perfformiodd am y tro cyntaf yn nhŷ opera byd-enwog La Scala ym Milan.
Teithiodd y Dwyrain Pell gyda'r Opera Cenedlaethol yn 1979 a chanodd gyda'r cwmni yn yr Ŵyl Olympaidd yn Los Angeles yn 1984.
Yn ystod ei yrfa perfformiodd yn y tai opera mwyaf yn cynnwys Opera San Francisco a Covent Garden.
Cyhoeddwyd recordiau yn canu yn Gymraeg a ieithoedd eraill.
Yn ogystal a'i waith ar lwyfan, perfformiodd ar sioeau radio a theledu hefyd. Daeth â chanu operatig at gynulleidfa ehangach gyda'i gyfres teledu Stuart Burrows Sings ar BBC Two a redodd am 8 cyfres.[2] Yn yr 1980au cafodd gyfres ei hun ar S4C o'r enw Gwlad y Gân.
Anrhydeddau
Derbyniodd Ddoethuriaeth Anrhydeddus o Brifysgol Cymru ym 1981, Cymrodoriaeth Coleg y Drindod, Caerfyrddin, ym 1989, ac fe dderbyniodd Gymrodoriaeth Anrhydeddus gan Brifysgol Aberystwyth hefyd.
Yn 2007 fe dderbyniodd OBE am ei wasanaeth i gerddoriaeth.
Remove ads
Bywyd personol
Roedd yn byw ym mhentre Sain Ffagan.[2]
Bu farw yn 92 mlwydd oed wedi cyfnod byr o waeledd.[3]
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Gweler hefyd
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads