Cilfynydd

pentref yn Rhondda Cynon Taf From Wikipedia, the free encyclopedia

Cilfynydd
Remove ads

Pentref ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Cilfynydd. Saif ar lan Afon Taf, tua milltir o dref Pontypridd, a 12 milltir i'r gogledd o ddinas Caerdydd.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Vikki Howells (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Beth Winter (Llafur).[1][2]

Remove ads

Hanes y pentref

Safai'r pentref bach, amaethyddol, gwreiddiol ar hen ffordd porthmyn ac fe'i galwyd ar ôl fferm a safai ar ochr ddwyreiniol y dyffryn: "Fferm Cilfynydd" lle trigai teulu'r 'Llwydiaid'. Roedd ambell dyddyn yno hefyd, rhai wedi'u codi o ganlyniad i agor Camlas Morgannwg a lifai gerllaw. Yn ôl Cyfrifiad 1881, roedd union 100 o bobl yn byw yma; erbyn 1901 tyfodd y boblogaeth i 3,500.[3] Tyfodd y pentre'n gyflym, felly, wedi sefydlu Glofa'r Albion yn 1887.

Remove ads

Tanchwa Glofa'r Albion

Thumb
Y lofa

Bu damwain fawr yma ar 23 Mehefin 1894, pan ffrwydrodd y pwll, gan ladd 290 o weithwyr a 123 o geffylau. Hon oedd ail drychineb waethaf yn hanes Maes Glo De Cymru; dim ond trychineb Senghenydd yn 1913 oedd yn waeth.[4] Wedi ymchwiliad, daethpwyd i'r canlyniad mai ffrwydriad nwy achosodd y gyflafan, ond nid oedd tystiolaeth beth gynheuodd y ffrwydriad felly ni chyhuddwyd y perchnogion, yr Albion Steam Coal Company, o drosedd.

Roedd y pwll yn dal i gyflogi 991 o ddynion yn 1947, pan ddaeth dan oruchwyliaeth y Bwrdd Glo, ond caeodd yn 1966.

Remove ads

Pobl o Gilfynydd

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads