Tatsfield

pentref yn Surrey From Wikipedia, the free encyclopedia

Tatsfield
Remove ads

Pentref a phlwyf sifil yn Surrey, De-ddwyrain Lloegr, yw Tatsfield.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Tandridge. Saif i'r de-ddwyrain o Lundain, ar gyrion Llundain Fwyaf, ac yn agos at y ffin rhwng Surrey a Caint.

Ffeithiau sydyn Math, Ardal weinyddol ...

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 1,863.[2]

Ar ddechrau'r 14g, roedd Rhodri ap Gruffudd, brawd iau Llywelyn ap Gruffudd, yn dal maenor Tatsfield wedi iddo symud i Loegr. Etifeddwyd y faenor gan ei fab, Thomas ap Rhodri, ac mae'n bosibl mai yma y ganed ei fab ef, Owain Lawgoch. Fforffedodd Owain y faenor yn 1369 oherwydd ei fod yng ngwasanaeth Charles V, brenin Ffrainc. Dywedir fod enwau Cymraeg ar rai strydoedd yma, e.e. "Maesmaur Road" (felly).

Bu'r diplomydd Donald Maclean yn byw yma o fis Rhagfyr 1950 hyd nes iddo ffoi i'r Undeb Sofietaidd ym mis Mai 1951.

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads