Tocelaw
endid tiriogaethol From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Tiriogaeth yn ne'r Cefnfor Tawel yw Tocelaw (hefyd Tokelau ac Ynysoedd Tocelaw) sy'n perthyn i Seland Newydd ac sy'n cynnwys tair atol yn unig. Mae Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig wedi dynodi Tokelau yn Diriogaeth An-Hunanlywodraethol (Non-Self-Governing Territory). Hyd 1976 yr enw swyddogol oedd Ynysoedd Tocelaw (Tokelau Islands). Weithiau cyfeirir at Tocelaw o hyd yn Saesneg wrth yr hen enw trefedigaethol The Union Islands. Mae'n rhan o ynysoedd Polynesia.
Does gan Tocelaw ddim prifddinas fel y cyfryw, gyda chanolfan weinyddol ar gyfer pob un o'r tair ynys fechan. Mae tua 1,416 o bobl yn byw ar yr ynysoedd.
Saesneg yw'r iaith swyddogol, ond siaredir yr iaith Tocelaweg, un o ieithoedd Polynesia, gan fwyafrif yr ynyswyr.
Remove ads
Dolenni allanol
- (Saesneg) Llywodraeth Tocelaw
- Atlas ar Wicigyfryngau
Remove ads
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

