Ynysoedd Cook

gwlad From Wikipedia, the free encyclopedia

Ynysoedd Cook
Remove ads

Grŵp o bymtheg ynys yn Polynesia yn ne'r Cefnfor Tawel, sy'n gorwedd rhwng Polynesia Ffrengig a Ffiji yw Ynysoedd Cook.

Ffeithiau sydyn Math, Prifddinas ...

Arwynebedd tir yr ynysoedd yw 240 km² yn unig, ond mae eu hardal economiadd forol yn cynnwys dros 2 filiwn km². Cyfanswm poblogaeth yr ynysoedd yw 21,388. Mae'r brifddinas Avarua ar y brif ynys, Rarotonga. Gorweddant rhwng 9 ac 20 gradd o hydred y de.

Remove ads

Daearyddiaeth

Rhennir yr ynysoedd, a'r wlad, yn fras yn ddau grŵp, Grŵp y De a Grŵp y Gogledd.

Mae ynysoedd Grŵp y De, sy'n cynnwys Rarotonga, Aitutaki, Atiu, Mangaia, Manuae, Mauke, Mitiaro, Ynys Palmerston a Takutea, o ffurfiad fwlcanaidd uchel (hyd at 632m yn achos Rarotonga) gyda phridd ffrwythlon a thyfiant trofaol cyfoethog. Yr eithriadau yw atolau bach Manuae a Palmerston, ac mae Takutea yn forfa (key) dywodlyd. Rhyngddynt mae ynysoedd Grŵp y De yn cynrychioli tua 90 y cant o gyfanswm arwynebedd tir Ynysoedd Cook. Rarotonga yw'r ynys fwyaf (6,719 hectar) a Takutea yw'r lleiaf (122 hectares).

Yng Ngrŵp y Gogledd ceir Manihiki, Nassau, Tongareva (Ynys Penrhyn), Pukapuka, Rakahanga a Suwarrow. Ac eithrio Nassau, sy'n forfa dywodlyd, mae'r ynysoedd hyn i gyd yn atolau coral isel a chanddynt dyfiant prin (coed cnau cocos a pandanus, er enghraifft) a lagŵns mawr. Ynys Penrhyn yw'r ynys fywaf (984 hectar) a Suwarrow yw'r lleiaf (40 hectar).

Mae yna bellteroedd sylweddol rhwng yr ynysoedd. Yr ynys allanol agosaf i'r brif ynys Rarotonga yw Mangaia (204 km) a'r bellaf i ffwrdd yw Penrhyn (1,365 km). Y ddwy ynys sydd bellach i ffwrdd o'i gilydd yw Pukapuka, yn Ngrŵp y Gogledd, a Mangaia yng Ngrŵp y De, sy'n 1,470 km oddi wrth ei gilydd.

Mae Rarotonga tua 3,010 km i'r gogledd-ddwyrain o Auckland yn Seland Newydd, 1,140 km i'r de-orllewin o Tahiti, 2,300 km i'r dwyrain o Ffiji a 4,730 km i'r de o Hawaii.

Remove ads

Hinsawdd

Mae gan yr ynysoedd hinsawdd gefnforol drofannol ac iddi ddau dymor. Yn ystod y tymor sych, o Ebrill i Dachwedd, ceir tymheredd o tua 26 gradd sentigradd ar ei uchaf a tua 20 gradd ar ei isaf. Mae'r tymor gwlypach, mwy glos, yn ymestyn rhwng Rhagfyr a mis Mawrth, gyda thymheredd o tua 28 gradd sentigradd ar ei uchaf a tua 22 gradd ar ei isaf. Yn ystod y tymor hwnnw mae Ynysoedd Cook yn tueddu i gael ystormydd trofannol cryf a chorwyntoedd yn ogystal ar adegau.

Thumb
Rarotonga, y brif ynys
Remove ads

Hanes

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Diwylliant

Mae trigolion brodorol Ynysoedd Cook yn Maori (Maori Ynysoedd Cook), grŵp ethnig Polynesiaidd sy'n perthyn yn agos i frodorion ynysoedd Tahiti a phobl Maori Seland Newydd. Sieredir Maori Ynysoedd Cook a Saesneg ar yr ynysoedd.

Mae'r ymadrodd Kia Orana ("Hir Oes i chi!") bron iawn yn arwyddair genedlaethol.

Dolenni allanol

Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads