Tony Harrison

bardd, dramodydd, cyfieithydd a chyfarwyddwr ffilm (1937-2025) From Wikipedia, the free encyclopedia

Tony Harrison
Remove ads

Bardd, cyfieithydd, dramodydd, a gwneuthurwr ffilmiau o Loegr oedd Tony Harrison (30 Ebrill 193726 Medi 2025). Mae ei farddoniaeth yn aml yn mynegi ei gefndir fel un o'r dosbarth gweithiol. Ysgrifennai dramâu a ffilmiau byrion ar fydr i'r Theatr Genedlaethol yn Llundain, yr Opera Fetropolitanaidd yn Efrog Newydd, ac i 'r BBC a Channel 4.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Remove ads

Bywgraffiad

Ganed yn Leeds, Gorllewin Swydd Efrog, Lloegr, a mynychodd Ysgol Ramadeg Leeds. Astudiodd ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Leeds, a darllenai y clasuron yn ystod ei ddyddiau yn y brifysgol.[1] Gweithiodd yn ddarlithydd Saesneg ym Mhrifysgol Ahmadu Bello yn Zaria, Nigeria, o 1962 i 1966, ac ym Mhrifysgol Karlova ym Mhrag, Tsiecoslofacia, o 1966 i 1967.[2]

Priododd Tony Harrison â Rosemarie Crossfield ym 1960, a chawsant un ferch (Jane, g. 1962) ac un mab (Max, g. 1963). Yn sgil diddymu'r briodas, priododd Harrison â'i ail wraig, Teresa Stratas, ym 1984.[2] Teithiai yn aml trwy gydol ei oes a bu'n byw ar adegau yn Ewrop, Affrica, ac Unol Daleithiau America.[1]

Bu farw yn 2025 yn 88 oed.[3]

Remove ads

Barddoniaeth

Cyhoeddodd ei waith cyntaf o farddoniaeth, y pamffled Earthworks, ym 1964. Derbyniodd glod am ei gasgliad, The Loiners, ym 1970. Un o'i brif gasgliadau yw From the School of Eloquence and Other Poems (1976) sydd yn cynnwys rhai o'i gerddi mwyaf poblogaidd.

Ysbrydolwyd ei gerdd enwocaf, "v.", wedi iddo ymweld â beddrodau ei rieni yn Leeds a gweld fandaliaeth yn y fynwent. Trwy atgyfodi traddodiad beirdd y fynwent o'r 18g (megis "Elegy Written in a Country Churchyard" gan Thomas Gray), â'r bardd i'r afael â chwymp diwydiannol Prydain a'i effaith ar y dosbarth gweithiol. Cyhoeddwyd y gerdd yn gyntaf yn y London Review of Books yn Ionawr 1985,[4] a fe'i argraffwyd ar ffurf llyfryn gyda ffotograffau cyn pen y flwyddyn. Addaswyd v. ar gyfer Channel 4 ym 1987, a Harrison yn darllen ei gerdd gyda lluniau o streic y glowyr a hwliganiaid pêl-droed ar y sgrin.[5] Mae'r gerdd yn dyfynnu'r rhegfeydd a geiriau hiliol ar ffurf graffiti yn y fynwent, ac o'r herwydd cafodd y darllediad ei wrthwynebu gan rai yn y wasg a Thŷ'r Cyffredin.

Comisiynwyd Harrison gan bapur newydd The Guardian i ysgrifennu'r gerdd "A Cold Coming" yn ystod Rhyfel y Gwlff ym 1991. Enillodd Harrison Wobr Farddoniaeth Whitbread ym 1992 am ei gerdd The Gaze of the Gorgon. Ym 1995 cafodd Harrison ei gomisiynu eto gan The Guardian i ysgrifennu cerddi o flaen y gad yn Rhyfel Bosnia. Enillodd Wobr Heinemann oddi ar y Gymdeithas Lenyddol Frenhinol ym 1996 am y gyfrol o'r farddoniaeth ryfel honno, The Shadow of Hiroshima and Other Film/Poems.

Ym 1999, wrth i lywodraeth y Deyrnas Unedig chwilio am olynydd i'r Bardd Llawryfog Ted Hughes, cyhoeddodd Harrison gerdd ddi-flewyn-ar-dafod o'r enw "Laureate's Block" yn gwrthod unrhyw gais i'w enwebu ar gyfer y swydd.[6]

Yn 2009 Harrison oedd enillydd cyntaf Gwobr PEN Pinter, gwobr lenyddol a sefydlwyd gan ganghen PEN yn Lloegr er cof am y dramodydd Harold Pinter.[7]

Remove ads

Theatr a theledu

Er gwaethaf ei enw fel bardd poblogaidd, mae nifer o feirniaid llenyddol yn ystyried ei addasiadau a chyfieithiadau i'r theatr fel ei waith gwychaf. Tra'n gweithio ym Mhrifysgol Ahmadu Bello, cydysgrifennodd Harrison â'r bardd Gwyddelig James Simmons y gomedi Akin Mahta (1966), addasiad o Lysistrata gan Aristoffanes sydd yn ymgorffori cerddoriaeth a dawns Nigeriaidd.[2] Yn y 1970au a'r 1980au, ysgrifennodd Harrison addasiadau o weithiau Molière, Jean Racine, yr Oresteia gan Aeschulos, a dramâu dirgel yr Oesoedd Canol.

Enillodd Prix Italia am ei ffilm deledu Black Daisies for the Bride (1993).

Llyfryddiaeth

  • Earthworks (Leeds: Northern House, 1964).
  • Newcastle Is Peru (Eagle Press, 1969).
  • The Loiners (London Magazine Editions, 1970).
  • Poems of Palladas of Alexandria (1973).
  • From "The School of Eloquence" and Other Poems (Rex Collings, 1978).
  • Continuous: Fifty Sonnets from "The School of Eloquence" (Rex Collings, 1981).
  • A Kumquat for John Keats (Newcastle upon Tyne: Bloodaxe, 1981).
  • U.S. Martial (Bloodaxe, 1981).
  • V. (Newcastle upon Tyne: Bloodaxe Books, 1985).
  • Selected Poems (Viking, 1984, Random House, 1987).
  • The Fire Gap: A Poem with Two Tails (Bloodaxe, 1985).
  • V. and other poems (Farrar, 1990).
  • A Cold Coming: Gulf War Poems (Newcastle upon Tyne: Bloodaxe, 1991).
  • The Gaze of the Gorgon (Newcastle upon Tyne: Bloodaxe, 1992).
  • The Common Chorus (1992).
  • Poetry or Bust (Salts Estates, 1993).
  • A Maybe Day in Kazakhstan (Channel 4 Poetry, 1994).
  • Penguin Modern Poets 5 (Penguin, 1995). Gyda Simon Armitage a Sean O'Brien.
  • The Shadow of Hiroshima and Other Film/Poems (Faber, 1995).
  • Permanently Bard: Selected Poetry, golygwyd gan Carol Rutter (Newcastle upon Tyne: Bloodaxe, 1995).
  • Prometheus (Faber and Faber, 1998).
  • Laureate's Block and Other Occasional Poems (Penguin, 2000).
  • Under the Clock (Penguin, 2005).
  • Collected Film Poetry (Faber and Faber, 2007).
  • Collected Poems (Viking, 2007).
Remove ads

Dramâu

  • Akin Mahta (1966).
  • The Misanthrope (1973).
  • Phaedra Britannica (1975).
  • Bow Down (1977).
  • The Oresteia (1981).
  • Yan Tan Tethera (1983).
  • The Mysteries (1985).
  • The Trackers of Oxyrhynchus (1990).
  • The Kaisers of Carnuntum (1995).
  • The Prince's Play (1996).
  • Fram (2008).

Ffilmyddiaeth

Cyfeiriadau

Darllen pellach

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads