Tudur Dylan Jones

Prifardd, awdur a chyn-athro o Gymro From Wikipedia, the free encyclopedia

Tudur Dylan Jones
Remove ads

Prifardd, awdur a chyn-athro o Gymru yw Tudur Dylan Jones (ganed 30 Mehefin 1965).[1] Fe'i adnabyddir hefyd fel Tudur Dylan. Enillodd y Goron yn Eisteddfod Sir y Fflint 2007. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Bro Colwyn yn 1995, pan oedd ei dad, y Prifardd John Gwilym, yn archdderwydd, ac eto yn Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau yn 2005.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Dinasyddiaeth ...
Remove ads

Bywgraffiad

Fe'i ganed yng Nghaerfyrddin, ond fe'i maged ym Mangor, lle mynychodd Ysgol y Garnedd ac Ysgol Tryfan. Aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Bangor gan raddio mewn Cymraeg ac Addysg.[2] Roedd yn athro Cymraeg yn Ysgol Gyfun y Strade, Llanelli cyn ei ymddeoliad yn 2019.[3]

Rhwng 2003 a 2023 ef oedd meuryn Ymryson y Beirdd a gynhelir yn y Babell Lên yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol. Pasiodd yr awenau i Twm Morys yn 2023.[4]

Remove ads

Bywyd personol

Mae'n byw yng Nghaerfyrddin gyda'i wraig Rhian ac yn dad i ddwy ferch.[2]

Ef oedd Bardd Plant Cymru 20042005.

Llyfryddiaeth

Fel cyfieithydd

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads