Ysgol Tryfan
ysgol yng Ngwynedd, DU From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Ysgol uwchradd gyfun gymunedol ddwyieithog ym Mangor yw Ysgol Tryfan.
Sefydlwyd yr ysgol ar safle'r hen Ysgol Sirol i Enethod ym 1978 fel ysgol gyfun gyfrwng Cymraeg i gylch Bangor. Lleolir yr ysgol ar safle flaenorol Ysgol Ramadeg y Merched, ar Lôn Powys yn ardal Maes Tryfan, heb fod ymhell o Benrhosgarnedd, a thua milltir o ganol Dinas Bangor.
Remove ads
Hanes
Yn 1971, cyfunwyd tair ysgol uwchradd at ei gilydd - Ysgol Friars, Ysgol Sirol y Genethod (sef ysgol ramadeg arall), ac ysgol Deiniol (ysgol eilradd fodern gymysg). Sefydlwyd yr ysgol i ddechrau ar dri safle. Defnyddiwyd safle hen ysgol y genethod (safle Tryfan) fel ffrwd iaith Gymraeg i’r blynyddoedd isaf, a hen adeilad Friars (safle Ffriddoedd) fel ffrwd iaith Saesneg i’r blynyddoedd isaf. Daeth y blynyddoedd uwch at ei gilydd mewn adeiladau newydd a adeiladwyd am £300,000 ar safle newydd yn Eithinog.
Cafwyd ail-drefnu pellach ym 1978. Gwahanwyd y ffrwd iaith Gymraeg i ffurfio ysgol 11-18 newydd, Ysgol Tryfan, ar safle Lôn Powys.
Remove ads
Addysg
Yn ystod adroddiad Estyn 2001, roedd tua 430 o ddisgyblion.[2] Erbyn 2007, roedd hyn wedi gostwng i gyfanswm o 370, 300 ym mlynyddoedd 7 i 11 gyda 70 ychwanegol yn y chweched ddosbarth. Daeth 46% ohonynt o gartrefi lle roedd y Gymraeg yn brif iaith a 25% o gartrefi lle roedd y Saesneg yn brif iaith, a 29% o deuluoedd dwyieithog. Siaradai 96% o'r disgyblion y Gymraeg i safon iaith gyntaf, cynnydd o 6% ers 2001.[3] Yn adroddiad Estyn 2013, roedd 524 o ddisgyblion yn cynnwys 86 yn y chweched dosbarth. Daeth 64% ohonynt o gartrefi lle mae'r Gymraeg yn cael ei siarad.[4]
Mae Ysgol Tryfan yn aelod o gonsortiwm ysgolion uwchradd Arfon a Choleg Menai, sy'n darparu cyrsiau ychwanegol i ddisgyblion blynyddoedd 10 i 13 (cyfnod TGAU a'r chweched ddosbarth), megis cyrsiau galwedigaethol cynnal, gofal anifeiliaid bychan a chadw cerbyd a thrin gwallt.[3]
Remove ads
Prif Athrawon
- 1978-1986 : Islwyn Parry
- 1986-1996 Eifion Williams
- 1996–2004 : Gareth Tudor Jones BSc
- 2004–2012 : Gareth Isfryn Hughes B.Add. (dyrchafwyd o dirprwy bennaeth ym mis Medi 2004)
- Ebrill 2012 – Awst 2019 : Gwyn Tudur (gynt yn ddirprwy bennaeth yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon)[5]
- Medi 2019 - Awst 2022 : Arwyn Williams (gynt yn ddirprwy bennaeth yn Ysgol Brynrefail, Llanrug)
- Medi 2022 - Ionawr 2023: Mrs Mari James (Pennaeth dan-ofal)
- Ionawr 2023- : Dr Geraint Jones
Ysgolion cynradd yn nalgylch yr ysgol
- Ysgol Glanadda
- Ysgol Glancegin
- Ysgol Babanod Coedmawr
- Ysgol y Garnedd
- Ysgol y Felinheli
- Ysgol Hirael
- Ysgol Y Faenol
- Ysgol Llandygai
- Ysgol Cae Top
- Ysgol Ein Harglwyddes
Cyn-ddisgyblion nodedig
- Gweler hefyd y categori Pobl addysgwyd yn Ysgol Tryfan
- Aled ap Dafydd - newyddiadurwr
- Bethan Rhys Roberts - newyddiadurwraig
- Ffion Dafis - actores a chyflwynydd
- Luned Emyr - cyflwynydd
- Owain Tudur Jones - pêl-droediwr rhyngwladol
- Tudur Dylan Jones - prifardd
- Robin McBryde - chwaraewr rygbi rhyngwladol
- Jonathan Nefydd - Actor
- Casi Wyn - Cantores
- Moi Hallam - Actor
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads