Achos Paul Chambers
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Achos llys ynghylch sylw a gyhoeddwyd ar wefan Twitter yn 2010 oedd achos Paul Chambers neu achos jôc Twitter.
Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. |

Yn ystod gaeaf 2009–2010, aflonyddodd tywydd oer fywyd ar draws gogledd Lloegr. Roedd Maes Awyr Robin Hood yn un o nifer o feysydd awyr a wnaeth ganslo ehediadau. Ar 6 Ionawr 2010,[1] postiodd Paul Chambers neges ar Twitter:
Crap! Robin Hood airport is closed. You've got a week and a bit to get your shit together otherwise I'm blowing the airport sky high!![2]
Cafodd ei arestio wrth ei waith mewn swyddfa gan heddlu gwrth-derfysgaeth wythnos yn ddiweddarach,[1] am wneud bygythiad o fomio,[2] wedi i reolwr o'r maes awyr nad oedd ar ddyletswydd canfod y neges wrth wneud chwiliad ar-lein.[1] Atafaelwyd ei ffôn symudol, ei liniadur, a'i ddisgyrrwr caled yn ystod chwiliad o'i dŷ.[2] Cafodd ei gyhuddo o "ddanfon neges electronig gyhoeddus sy'n anferthol o dramgwyddus neu o gymeriad anweddus, anllad neu fygythiol yn groes i Ddeddf Cyfathrebu 2003".[1][3] Ar 10 Mai, cafwyd yn euog gan lys ynadon Doncaster[1] a gorchmynnwyd iddo dalu £1,000 mewn dirwyon a chostau.[2] Collodd ei swydd o ganlyniad.[2]
Mae nifer wedi condemnio'r dyfarniad a'i alw'n annheg,[4][5][6] ac eraill wedi ei alw'n enghraifft o gamwedd cyfiawnder.[7]
Collodd Chambers apêl yn erbyn y dyfarniad yn Nhachwedd 2010. Clywodd y Barnwraig Jacqueline Davies ei apêl yn Llys y Goron, Doncaster; dywedodd bod y neges yn cynnwys "bygythiad" (menace) a rhaid bod Chambers wedi sylweddoli y byddai'r neges yn cael ei hystyried o ddifrif.[8] Ymatebodd miloedd o ddefnyddwyr Twitter trwy ail-bostio neges Chambers gan gynnwys y hashnod #iamspartacus, gan gyfeirio at y ffilm Spartacus.[9][10]
Ar 8 Chwefror 2012, ymddangosodd Chambers yn yr Uchel Lys Barn i ofyn i'r barnwyr wrthdroi'r dyfarniad.[11]
Cynigodd y cyflwynydd teledu Stephen Fry i dalu costau cyfreithiol Chambers.[12][13]
Remove ads
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
